Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn awyddus i ailsefydlu Awdurdod Datblygu Cymru (y WDA).

Fe sefydlwyd yr Awdurdodd ynv wreiddiol yn 1976 gyda’r nod o achub economi Cymru a chefnogi datblygiad a buddsoddiad, ond cafodd ei ddiddymu yn 2006 gyda Llywodraeth Cymru’n ymgymryd â’r cyfrifoldebau.

Yn ôl Russell George AoS, Gweinidog yr Wrthblaid dros yr Economi a Thrafnidiaeth byddai ailsefydlu’r Awdurdod Datblygu Cymru yn cynnig llwybr clir i Gymru adfer yr economi.

Yn ei erthygl a gyhoeddwyd ar wefan y Sefydliad Materion Cymreig, mae’n dweud y byddai llywodraeth Geidwadol yng Nghymru yn adfywio economi Cymru drwy ailsefydlu’r awdurdod a chyfuno ‘Banc Datblygu Cymru’ a ‘Busnes Cymru’.

‘Siop un stop’

Yn ôl Russell George mae’r pandemig wedi rhoi ffocws ar ddatganoli, gan dynnu sylw at “fethiannau” y Blaid Ladur sydd wedi bod mewn grym yn y Senedd ers dros 20 mlynedd.

“Ein nod fyddai creu endid busnes ystwyth a deinamig – siop un stop – i ymateb i anghenion cwmnïau mawr a bach ar ôl y pandemig,” meddai.

“Byddai ailgyflwyno [yr awdurdod] yn rhoi mantais y mae mawr ei hangen ar gwmnïau o Gymru wrth i ni geisio gwneud y mwyaf o gyfleoedd a ddarperir gan Brexit, a byddai’n meithrin gallu ein heconomi fregus – sydd angen newidiadau dybryd.

“Adeiladu yw’r gair allweddol – bydd llywodraeth Geidwadol Gymreig yn adeiladu ein cenedl yn dilyn y pandemig.

“Yn ogystal â ffordd liniaru’r M4, byddwn yn uwchraddio’r A55 a’r A40, a bydd ein cynllun i ailadeiladu Cymru yn creu o leiaf 50,000 o swyddi newydd ar draws ystod o sectorau.

“Mae heriau digynsail yn galw am benderfyniad cadarn, a chyda hanes trychinebus Llafur o gamreoli economaidd, mae’n amlwg bod angen newid yng Nghymru fis Mai.

“Bydd mwy o’r un peth [dan Lywodraeth Lafur] yn arwain at annibendod, a byddai ymrwymiad Cenedlaetholwyr Cymru i refferendwm ar annibyniaeth i Gymru yn arwain at ansicrwydd economaidd ar yr union adeg y dylem ganolbwyntio’n llwyr ar ailadeiladu Cymru.”