Cai Rhys yw enillydd Her Ffilm Fer Hansh 2021 am ei ffilm fer ‘Y Gyfrinach’.
Yn dilyn llwyddiant cystadleuaeth Her Ffilm Fer Hansh y llynedd, gosododd Hansh yr her i gystadleuwyr greu ffilm fer wreiddiol dros gyfnod o 48 awr i ddathlu Mis LHDT+.
Ar ddechrau’r cyfnod 48 awr, fe gyhoeddwyd fod rhaid cynnwys y thema o hapusrwydd o fewn y ffilm, yn ogystal â chynnwys tro yn y gynffon neu cliffhanger.
Mae Cai Rhys yn fab i’r actor Ieuan Rhys sydd hefyd yn serennu yn y ffilm fer.
‘Yr un mor deilwng â phennod o Dr Who!’
Gyda chyfanswm o 16 ffilm yn cael eu creu ledled Cymru a thu hwnt, Gwenllïan Gravelle, Comisiynydd Drama S4C Drama, Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Iris, yr actor a chyfarwyddwr, Lee Haven Jones, a’r cyfarwyddwr a’r sgriptiwr, Amy Daniel, oedd yn beirniadu’r gystadleuaeth eleni.
“Roedd ’na elfennau gwych o greadigrwydd a dyfeisgarwch i’w gweld yn y ffilmiau,” meddai Gwenllïan Gravelle.
“Roeddwn i’n meddwl fod ’na lot i’w edmygu, yr animeiddio yn rhai o’r ffilmiau, y goleuo, y fframio, ac mi oedd y perfformiadau hefyd yn grêt.
“Y tair ffilm ddaeth i’r brig i fi oedd Brwydro, Y Gyfrinach, a Gêm o Gariad… tair ffilm wahanol iawn. Ond gan ei fod wedi ymateb yn iawn i’r brîff, Y Gyfrinach sy’n mynd â hi.”
Meddai Lee Haven Jones: “Beth sy’n rhyfeddol i mi yw fy mod i wedi treulio 16 wythnos yn creu pennod o Dr Who ar gyfer Dydd Calan, a bod y bobl wnaeth ymgeisio wedi treulio 48 awr yn creu ffilmiau sydd yr un mor deilwng â phennod o Dr Who!
“Mae’n rhyfeddol fod pobl wedi llwyddo i wneud gymaint mewn cyn lleied o amser.”
Gwyliwch y feirniadaeth lawn isod:
Mae’r pum ffilm daeth i’r brig i’w gweld nawr ar wefan Her Ffilm Fer a bydd y ffilmiau yn cael eu darlledu ar S4C nos Wener Chwefror 26.