Mae Hansh wedi cyhoeddi y gall pobol ennill £1,000 drwy gystadlu yn eu Her Ffilm Fer y mis yma.

O nos Wener (Mehefin 19) i nos Sul (Mehefin 21), bydd cystadleuwyr yn cael 48 awr i greu ffilm fer wreiddiol, o dan un genre penodol fydd yn cael ei ddatgelu cyn dechrau’r her.

Beirniaid y gystadleuaeth fydd Hannah Thomas (cynhyrchydd Craith, Under Milk Wood, Becoming Human), Euros Lyn (cyfarwyddwr Dr Who, Torchwood, Y Llyfrgell), Ed Thomas (cynhyrchydd Y Gwyll, Gwaith Cartref, Pen Talar), Gwenllian Gravelle (Comisiynydd Drama S4C a chyn-gynhyrchydd Un Bore Mercher) a Rhodri Ap Dyfrig (Comisiynydd Cynnwys Ar-lein S4C a Hansh).

“Dw i’n rili edrych ymlaen at weld beth ddaw allan o’r her yma,” meddai Hannah Thomas.

“Dyma gyfle i wneuthurwyr ffilm adael i’r dychymyg rhedeg yn rhydd ac i greu ffilmiau byr anarferol a heriol.

“Pob lwc i bawb sydd yn cymryd rhan.”

‘Ysgogi creadigrwydd’

“Mae Hansh yn blatfform sydd wedi ysgogi creadigrwydd ers y cychwyn cyntaf, a beth bynnag eich lefel o brofiad neu’r dechnoleg sydd o fewn eich cyrraedd, rydym yn annog cynhyrchwyr ffilmiau Cymru i gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon,” meddai Rhodri Ap Dyfrig.

“Er gwaethaf cyfyngiadau’r cyfnod clo, rydym yn edrych ymlaen i weld sut all yr amgylchiadau unigryw yma sbarduno dychymyg a syniadau cyffrous ymysg ein cynhyrchwyr ffilmiau.”

Gallwch gystadlu drwy ddilyn y ddolen hon: www.herffilmfer.cymru.