Mae dirywiad polisi iaith S4C yn rhywbeth sy’n pryderu nifer ohonom. Mae’r Saesneg cynyddol sydd i’w chlywed ar ein Sianel yn ddiangen ac yn niweidiol, ac mewn peryg yn y pen draw o danseilio holl hanfod ei bodolaeth. Nid ‘safon’ y Gymraeg yw ein consýrn ni yn hyn o beth, ond y Saesneg sy’n treiddio i raglenni ar draws y gwasanaeth. Gofynnwn i uwch swyddogion S4C roi ystyriaeth o’r newydd i’r trywydd peryglus hwn a chofio swyddogaeth bennaf y Sianel, sef darparu gwasanaeth Cymraeg.