Gan nad yw’r Urdd yn cyhoeddi cyfansoddiadau eleni, mae Golwg wedi cael y fraint o gyhoeddi gwaith prif lenorion Eisteddfod T, yr eisteddfod ddigidol gyntaf erioed.

Nest Jenkins o Ledrod, Ceredigion, oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Prif Ddramodydd.

Enillodd dlws wedi ei greu yn arbennig gan y gof Ann Catrin Evans am ymson dramatig a oedd â thro trawiadol iawn yn ei gynffon. Roedd yn waith “soffistigedig iawn,” yn ôl y beirniad, Hanna Jarman.