Osian Wyn Owen o’r Felinheli yw Prifardd Eisteddfod T – daeth i’r brig mewn cystadleuaeth a oedd yn “uchel ei niferoedd a’i safon,” gyda cherdd ingol am golli rhiant.

Mae e’n enw cyfarwydd i’r Urdd gan mai fe oedd enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed yn 2018. Hefyd, fe ddaeth yn drydydd yng nghystadleuaeth y Prif Lenor Eisteddfod T eleni.