Dramâu fel Wastad ar y Tu Fas, Epa yn y Parlwr Cefn, a Garw; dramâu teledu fel Gadael Lenin, Noson yr Heliwr, a Pen Talar; y nofel ddinesig Bob yn y Ddinas; ac oes o sgriptiau i Pobol y Cwm.

Nid oes dwywaith fod y diwylliant poblogaidd Cymraeg wedi elwa’n aruthrol ar waith y dramodydd Siôn Eirian, a fu farw dros y penwythnos, yn 66 oed.