Wrth i’r cyfyngiadau feirws ddechrau cael eu llacio, ychydig iawn o sylw y mae un maes yn ei gael – maes iechyd.

Hynny er bod peryg o argyfwng mawr arall … efallai ei fod yma eisoes.

O ran y cyhoeddiadau mawr, does yna ddim sôn wedi bod am reolau newydd i helpu’r Gwasanaeth Iechyd i ailafael yng ngweddill ei waith.