Roedd hi’n wych gweld Radio Cymru, S4C, cwmni Avanti, a mudiad yr Urdd yn mynd i’r afael mewn ffordd mor ddyfeisgar â’r bwlch a adawyd yn y calendr Eisteddfodol yn sgil pandemig COVID-19.

Mae’n amlwg o’r ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol bod Eisteddfod T wedi bod yn boblogaidd iawn, a’i bod wedi dod â chysur a boddhad i lawer iawn yn ystod cyfnod anodd y cloi.