Gwelaf fod Llywodraeth Cymru yn parhau i orfodi ein Prif Weinidog i annerch y genedl tra’n sefyll o flaen coaster enfawr.

Mae’n bosib, wrth gwrs, fod y coaster yn un maint normal – a bod Mark Drakeford yn llawer llai na’r disgwyl.

Ond dyma fe eto, yn edrych yn debycach i is-reolwr siop ddillad na’r dyn mwyaf pwerus yng Nghymru.