Daeth llawer o atgofion yn llifo yn ôl wrth wylio’r gêm glasur ddiweddaraf i gael ei darlledu gan BBC Cymru.
Wir, roedd buddugoliaeth Cymru dros Brasil mewn gêm gyfeillgar yn 1991 yn ganlyniad gwych, ond roedd y noson honno yn gofiadwy i mi am resymau oddi ar y cae.