Bydd S4C yn dangos darllediadau byw o bob gêm o ymgyrch gymhwyso Cymru ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 2022 yn Qatar.

Mae Cymru’n wynebu Gwlad Belg, Gweriniaeth Tsiec, Belarws ac Estonia yn eu grŵp cymhwyso, gan obeithio cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.

Mae’r ymgyrch yn dechrau ddydd Mercher (Mawrth 24) gyda gêm oddi cartref yn erbyn Gwlad Belg, sydd ar hyn o bryd yn rhif un yn safleoedd y byd FIFA.

Bydd Sgorio Rhyngwladol yn darlledu pob gêm ar S4C ac S4C Clic.

Yn ogystal, bydd y gêm gyfeillgar rhwng Cymru a Mecsico yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Sadwrn (Mawrth 27), yn cael ei dangos yn fyw ar S4C.

Dywedodd Dylan Ebenezer, cyflwynydd Sgorio: “Bydd 2021 yn flwyddyn enfawr i Gymru. Yn ogystal â’r mater bach o Bencampwriaethau Ewrop, bydd y tîm yn chwarae pob un o’u gemau cymhwyso Cwpan y Byd 2022.

“Unwaith eto, mae pob un o’r wyth gêm wedi’u trefnu o fewn cyfnod o wyth mis, ac er ei bod yn grŵp anodd iawn, mae perfformiadau diweddar y tîm wedi rhoi gobaith gwirioneddol i ni y gallwn gyrraedd y cam mwyaf.

“Er na fydd Wal Goch yn dilyn y tîm am gyfnod, gall cefnogwyr ddilyn pob cam o’r ymgyrch gyda Sgorio.”

“Cyfnod cyffrous”

Dywedodd Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C: “Mae hwn yn gyfnod cyffrous i’r tîm cenedlaethol yn eu nod o fod yn gymwys ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 2022.

“Rydym yn falch iawn o gael darllediadau byw o bob gêm yng Nghymru ar S4C unwaith eto.

“Gadewch i ni obeithio y gallwn ei wneud drwodd i Qatar.”