Mae’r band Adwaith wedi bod yn cydweithio â siaradwr iaith leiafrifol yn yr Eidal, y cerddor Massimo Silverio, ar gân newydd o’r enw ‘Yn y Sŵn/Nijo’.

Daw hyn yn sgil lansio partneriaeth ryngwladol rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a Gŵyl SUNS Europe o Friuli, sef Gŵyl Ewropeaidd y Celfyddydau Perfformio mewn Ieithoedd Lleiafrifol.

Enillodd Adwaith y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2019, am eu halbwm gyntaf Melyn ac ers hynny mae’r band wedi mynd o nerth i nerth gan ennill £10,000 o gronfa gerddoriaeth Brydeinig y ‘PPL Momentum Music Fund‘ i’w wario ar farchnata a hyrwyddo eu halbwm nesaf.

Mae’r gân newydd yn torri tir newydd – y gyntaf sy’n cyfuno’r Gymraeg gyda’r iaith Friulian, iaith gynhenid Friuli yng ngogledd yr Eidal.

Bydd yn cael ei rhyddhau’n swyddogol ar Chwefror 26.

Mae dwy fersiwn o’r gân wedi’u recordio, fersiwn Cymraeg a fersiwn dwyieithog Cymraeg/Friulian, ac mae Adwaith a Massimo Silverio yn perfformio ar y ddwy fersiwn.

Mae ‘Nijo’, sef teitl y fersiwn dwyieithog, yn air hynafol o’r iaith Friulian, sy’n golygu ‘Unman’ neu ‘Nunlle’, ac mae’r gân yn sôn am deimladau, geiriau ac ieithoedd sy’n cyrraedd ‘Nijo’ yn y pendraw.

“Sail gadarn i ni ddatblygu perthynas a phrosiectau eraill yn y dyfodol”

“Mae’r bartneriaeth yma rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a gŵyl SUNS Europe yn dangos sut mae modd cydweithio’n llwyddiannus gyda gwledydd a diwylliannau eraill ar draws y byd,” meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses.

“Rwy’n ffyddiog bod y ffaith ein bod ni’n ddwy ŵyl sy’n dathlu ieithoedd lleiafrifol yn ein clymu ynghyd, a gobeithio bod hyn yn sail gadarn i ni ddatblygu perthynas a phrosiectau eraill yn y dyfodol.

“Ry’n ni wedi llwyddo i greu rhywbeth hudolus gyda’r cywaith cyntaf, ac rwy’n sicr y bydd pawb yn cytuno bod y gân – boed hynny’r fersiwn Gymraeg neu ddwyieithog – yn arbennig iawn.”

“Cydweithio gyda Chymru yn ystod y cyfnod yma’n arbennig o bwysig i ni”

Ychwanegodd Leo Virgili, Cyfarwyddwr Artistig SUNS Europe: “Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Eisteddfod am y syniad gwych yma.

“Mae cydweithio gyda Chymru yn ystod y cyfnod yma’n arbennig o bwysig i ni.

“Ry’n ni’n credu’n gryf mewn Ewrop sy’n mynd y tu hwnt i Brexit, banciau a chytundebau gwladwriaethol.

“Ewrop go-iawn, sy’n gallu mynegi’i holl amrywiaeth, gan rannu grym ieithoedd a diwylliannol cynhenid.”