Mae cyflwynydd newydd Heno yn byw yn y Bont-faen ym Mro Morgannwg gyda’i gŵr, Doug, a’u plant Seren (7), Mabli (5) a Nant (3). Cyn cychwyn teulu, fe dreuliodd y ferch o ardal y Bala flynyddoedd yn cyflwyno ar deledu yn Los Angeles…
Beth fyddwch chi’n ei wneud ar Heno?
Cyflwyno yn y stiwdio efo Rhodri [Owen] bob nos Lun a nos Wener, ac efallai fydda i’n pigo fyny ambell ddiwrnod arall.
Rydw i’n trio sortio rhywun i edrych ar ôl y plant, dyna’r peth mwya’.
Mae Doug y gŵr yn gweithio fel Cyfarwyddwr Creadigol i Facebook, yn gweithio ‘oriau LA’ ac felly yn cychwyn gwaith am bump [y pnawn] a gweithio tan ddau [y bore].
Fel arall, mi fasa fo’n gallu edrych ar eu holau nhw!
Faint o sioc ydy tywydd Cymru i’r gŵr, a gafodd ei fagu yn Hawaii?!
Roeddan ni’n symud tŷ yn ddiweddar, ac roedd hi’n bwrw glaw ac eira, a dyma fo’n dweud: ‘This is really hard!’
Ond na, mae o’n gweld bod popeth arall yn dda yma, o ran magu plant a chymuned a phopeth felly.
Sut wnaethoch chi gychwyn cyflwyno ar deledu?
Wnes i astudio Gwyddoniaeth yn coleg, cyn gweithio allan y bydda fo braidd yn boring gendda i i fod o flaen meicrosgôp drwy’r dydd.
Wedyn wnes i adael coleg a chael ryw jobsus yma a thraw, cyn cael swydd yn ysgrifenyddes yn yr adran Planed Plant [yn S4C].
Wedyn roeddan nhw yn chwilio am gyflwynwraig newydd pan ddaru Sarra Elgan adael, a gesh i’r swydd honno.
Beth yw’r atgofion am gyflwyno ar Planed Plant?
Roeddan ni’n cael lot o hwyl gyda Rhydian [Bowen Phillips], Alun [Williams, un arall o gyflwynwyr Heno, erbyn hyn], a Branwen [Gwyn, sydd hefyd wedi cyflwyno ar Heno].
A fues i’n cyflwyno gydag Alex [Jones, The One Show] a Gethin [Jones, Blue Peter gynt], ac mae yn rhyfedd eu gweld nhw wedi mynd yn eu blaenau.
Ac roedd hi’n od i weld Alun [Williams] ar ôl pymtheg mlynedd!
Pam mentro draw i Los Angeles?
Es i a Branwen Gwyn ar ein gwyliau rownd America. Roedden ni’n dwy newydd ddod allan o berthnasau hir, a dyma ni’n dweud: ‘Gad i ni fynd i America am fis!’
Ac un tro, aethon ni allan am ddrincs efo Matthew [Rhys] a Michael Sheen.
Ac wedyn wnaeth Doug y gŵr ddechrau siarad efo Matthew wrth y bar, a ddaru ni gyfarfod a hitio hi ffwrdd. A wnes i symud allan yna’r flwyddyn ganlynol.
Sut ydach chi’n perthyn i Matthew Rhys?
Mae ei dad o a fy mam i yn frawd a chwaer.
Beth fuoch chi’n ei wneud o ran gwaith yn LA?
Mi fues i’n cyflwyno pytiau o newyddion yn y blynyddoedd cyntaf i Current TV, sef sianel deledu Al Gore [y cyn-ymgeisydd Arlywyddol].
Hefyd, fues i’n mynd i glyweliadau i gael mwy o waith – ond mae o’n fyd gwahanol i Gymru.
Yn fan hyn, mae pobol yn gwerthfawrogi naturioldeb a bod yn ti dy hun.
Ond allan yno, “tits and teeth” – fel yr oeddan nhw’n ei alw fo – oedd popeth.
Roedd o’n eithaf ffug ac roedd y nodiadau roeddwn i’n cael yn ôl yn hilarious.
Wnes i fynd am swydd yn cyflwyno rhaglen i blant, a’r nodyn ar ôl gwneud yr audition oedd: ‘Great! Can you do that a little bit sexier?’
Sexier?! I blant?
Pa gyngor sydd gennych chi i ddarpar-gyflwynwyr?
Trïo bod mor naturiol â phosib.
Os ydach chi’n trïo rhoi’r argraff eich bod yn rhywun gwahanol i’r hyn ydach chi, dw i’n meddwl bod hynny yn dod drosodd ar sgrin, a tydi pobol ddim yn cymryd ata chi.
Sut fagwraeth gawsoch chi?
Fe ges i blentyndod delfrydol yn cael fy magu ar fferm ddefaid a gwartheg yn nhopiau Llanuwchllyn.
Rhieni bendigedig a dwy chwaer a brawd iau, a’r gymuned yno… wnes i ddim gweld, nes i mi adael, pa mor glos a phwysig ydy cymuned lle’r ydach chi yn adnabod hen nain a hen antis ac yn helpu i dorri coed tân a ballu.
Fy mrawd yw’r nawfed genhedlaeth i ffermio Tyddyn Ronen.
Beth yw eich ofn mwya’?
Pryfaid cop.
Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?
Dw i’n licio mynd i redeg pan ga i amser, ac mi wna i yoga a pilates – mae gen i hen gefn drwg.
Beth sy’n eich gwylltio?
Pobol sy’n beirniadu pobol eraill.
Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?
Achos bo fi wedi bod i ffwrdd ohonyn nhw am mor hir, fyswn i’n gwadd fy nheulu.
Stecsen raw i’w fwyta.
Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?
Oh God!
Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras?
Llithro lawr staer wrth geisio cerdded – mewn sodlau uchel – i barti yng ngardd gefn tŷ Seth Rogen yn LA. Wnes i jesd disgyn yn glewt yr holl ffordd lawr y staer!
Beth yw’r parti gorau i chi fod ynddo?
Yr un mwya’ weird oedd parti yn LA, ryw bythefnos ar ôl symud yno, ar adeg pan doeddwn i heb gyfarfod neb enwog.
Roedd Doug yn ’nabod Adam Sandler, felly dyma ni yn mynd i barti Dolig hwnnw.
Mewn rhyw bowling alley oedd o, ac roedd Tom Cruz, Leonardo di Caprio, yr A-listers i gyd yno.
Roedd yr awyrgylch yn od a neb yn cael hwyl…
Y parti gorau fyse ein priodas ni yn Lake Tahoe, gogledd Califfornia.
Beth yw’r llyfr difyrraf i chi ei ddarllen?
There’s something about Kevin. Mae wedi’i sgwennu o bersbectif diddorol y fam yma sydd â’i mab yn un o’r school shooters yna. Mae o’n reit haunting.
Beth yw eich hoff gân?
‘Just the way you are’ gan Billy Joel.
Aethon ni i’w weld o’n canu yn yr Hollywood Bowl, ac roedd o’n wych.
Rhannwch gyfrinach efo ni…
Ar un cyfnod roedd gen i piercing yn fy nhafod… ifanc a gwirion!
Oedd o’n boenus cael tyllu tafod?
Mi wnaeth o chwyddo am ryw ddiwrnod, ac wedyn doedd o ddim yn boenus.
Dw i wedi cael tyllu fy nghlust, yn y cartilage, ac mae hynny lot fwy poenus.