Mae arlunydd o Fethesda wedi cael ei hysbrydoli wrth sbecian drwy luniau pobol ar Facebook…

Roedd Elen Williams wastad wedi hoffi gwneud celf ac, fel sawl darlunydd Cymraeg arall yn ddiweddar, mae cyfnod y pandemig wedi rhoi’r cyfle iddi ganolbwyntio arno go-iawn.

Athrawes gyflenwi yn dysgu celf oedd hi cyn i’r cyfnod clo cyntaf daro ym mis Mawrth 2020, ac felly a hithau heb wersi i’w cynnal, cafodd gyfle i droi at ei chelf ei hun.