Ar ôl gorfod ffoi o Dwrci yn dilyn protest, mae’r actor 43 oed wedi ymgartrefu yn ardal Grangetown o’n prifddinas.

Mae 2.8 MILIWN yn ei ddilyn ar Twitter ac mae yn portreadu dyn o Dwrci yn nrama newydd S4C, Fflam…

Pam wnaethoch chi orfod gadael eich mamwlad? 

Yn fras, yn 2013 roedd yna brotestiadau anferthol ym mharc Gezi, yng nghanol Istanbul, wnaeth droi yn gyfres o brotestiadau cenedlaethol wnaeth bara tua thri mis.