Portread o Carys Huws
Mae’r ffotograffydd Carys Huws wedi teithio’r byd gyda’i gwaith ac yn byw yn ninas Berlin ar hyn o bryd – ond yn dal i hiraethu am Gymru bob hyn a hyn.
Rhwng 2016 a 2019 bu’n rhan o brosiect Red Bull Music Academy yn teithio o gwmpas y byd yn gweithio gyda cherddorion byd enwog gan gynnwys Bjork, Iggy Pop a Thundercat.
A chyn hynny bu’n byw yn Llundain am bedair blynedd yn gweithio i lu o gylchgronau ffasiwn, celf a cherddoriaeth adnabyddus megis Dazed, AnOther Magazine, The Spaces, The Vinyl Factory, a FACT Magazine.
Mi symudodd i’r Almaen ar ddechrau 2017 oherwydd ei gwaith, ac ers 2019 mae wedi bod yn gweithio fel ffotograffydd a gwneuthurwr ffilmiau llawrydd yn ninas Berlin.
Yn ystod ei chyfnod gyda’r Red Bull Music Academy wnaeth hi ymweld â llu o ddinasoedd ledled y byd gan gynnwys Efrog Newydd, Dubai, Vienna, Detroit, Los Angeles, a Zurich.
Ac fel rhan o’r prosiect roedd hi’n cynnal gweithdai, yn tynnu lluniau yn ystod cyngherddau mawr, ac yn gohebu ar ddarlithoedd gan sêr y byd cerddoriaeth.
“Yn edrych yn ôl, honna yw’r swydd orau dw i wedi ei chael,” meddai. “Dw i’n meddwl ei fod e’n eitha’ rare cael swydd fel’na.
“Mae cymaint o drafaelu ac roedd e’n gymaint o hwyl. Roedd e jest yn combination o lot o bethau exciting.”
Un o’r uchafbwyntiau, meddai, oedd tynnu lluniau o Solange Knowles – cerddor hynod adnabyddus sy’n chwaer fach i Beyoncé – yn Amgueddfa’r Guggenheim yn Efrog Newydd.
Trwy lwc llwyr mi gafodd gyfle unigryw i siarad â hi.
“Ges i brofiad eitha’ doniol,” meddai Carys Huws. “Es i mewn i’r lifft yn y Guggenheim i fynd lan i’r llawr top ac roedd [Solange] yn y lifft yn barod. So o’n i basically jest yn siarad gyda hi yn y lifft ar ben fy hun.
“Roedd e’n anodd gwybod beth i’w ddweud wrthi hi! Ond wnes i basically dweud wrthi hi bo fi’n really gwerthfawrogi hi a’i gwaith.”
Cafodd Carys Huws ei magu yn Ffynnon Taf, ar gyrion Caerdydd, ac mi astudiodd yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, a Phrifysgol De Cymru.
Mi symudodd o Gymru ar ôl gorffen yn y brifysgol yng Nghaerdydd, ac mae wedi bod yn alltud ers wyth mlynedd.
“Ro’n i’n benderfynol o adael Caerdydd a Chymru achos ro’n i’n teimlo fel bo fi really moyn gwneud enw i fy hun tu fas i Gymru,” meddai, “a ro’n i’n teimlo’n eitha’ limited, mewn ffordd, o ran cael gyrfa greadigol yng Nghymru.”
Mae’n dweud bod ei chartref newydd yn rhoi gwefr iddi, ac mae’n disgrifio Berlin fel paradwys i artistiaid a phobol greadigol.
Ymhlith ei ffrindiau mae ffotograffwyr, animeiddwyr a cherddorion.
“Os ydych yn berson creadigol, dw i’n teimlo mai un o’r llefydd gorau yn Ewrop, neu’r byd, i fyw ynddo yw Berlin,” meddai.
“Mae lot o bobol gyda swydd greadigol yn brif swydd,” ychwanega. “Dyna un gwahaniaeth mawr dw i’n gweld rhwng fan hyn a Chymru.
“Mae’n teimlo fel bod Llywodraeth yr Almaen yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi artistiaid lot mwy na llywodraethau Cymru a Phrydain. Dyna un o’r pethau dw i’n sylwi arno fwya’.”
Mae’n dweud mai Berlin yw “clubbing capital” y byd a bod yna “sîn gerddoriaeth massive” yno.
Mae hefyd yn tynnu sylw at Berghain, hen orsaf bŵer sydd bellach yn glwb nos, ac sy’n enwog am ei gerddoriaeth tecno tywyll a’r gweithgarwch aflan sy’n digwydd oddi fewn i’w furiau!
Cafodd y clwb tecno ei gydnabod yn sefydliad diwylliannol o bwys gan Lywodraeth yr Almaen yn 2016. Mae Carys Huws yn gweld hi’n anodd dychmygu’r fath beth yng Nghymru.
“Byddai hynny byth yn digwydd yng Nghymru achos dyw’r Llywodraeth ddim yn gweld cerddoriaeth, creadigrwydd a chelf yn yr un ffordd ag y maen nhw fan hyn,” meddai.
Er hynny, mae’r ffotograffydd 29 oed yn “hiraethu’n fawr” am Gymru, ac mae’r syniad o ddychwelyd rhyw ddydd i’r famwlad yn apelio iddi.
Ond mae’n cyfaddef bod Brexit yn cymhlethu pethau, ac mae’n dweud bod ganddi gyfle yn awr i fyw yn yr Almaen yn yr hirdymor.
Mae modd i ddinasyddion y Deyrnas Unedig anfon cais i aros yn y wlad am ddeng mlynedd, ac mae hi’n dweud bod y posibiliad o aros cyhyd yn “eitha’ deniadol”.
Pan symudodd i ddinas Berlin am y tro cyntaf, mae’n dweud iddi brofi “tamaid bach o identity crisis”.
“Roedd bron pawb o’n i’n cwrdd â, fan hyn ym Merlin, a phan o’n i’n trafaelu’r byd gyda gwaith, naill ai ddim yn gwybod lle oedd Cymru, neu oedden nhw’n meddwl bod Cymru’n rhan o Loegr,” meddai.
“Ac roedd gorfod ailadrodd hwnna drosodd a throsodd – wel, roedd yn teimlo fel bod yn rhaid i mi validate-o fy hunaniaeth. Bron bob dydd. On a daily basis. Roedd e’ jest yn eitha’ diflas.”
Mae’n dweud bod profiad Cymry Cymraeg alltud yn “eitha’ unigryw” ac yn wahanol i brofiad pobol eraill o’r Deyrnas Unedig oddi cartref.
“Mae’n really anodd ffeindio pobol sy’n deall dy hunaniaeth di yn y ffordd yna tu allan i Gymru yn gyffredinol – hyd yn oed ym Mhrydain,” meddai.
Bellach mae wedi cwrdd â phâr o Gymry Cymraeg ym Merlin ac mae hynny’n ei “helpu”, meddai.
Mae hefyd wedi bod yn gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg ac wedi bod yn cydweithio gydag artistiaid cerddorol Cymraeg.
“Mae hwnna, yn enwedig yn ystod y pandemig, y syniad yna o gael y cysylltiad a dal bod yn gweithio â phobol Cymraeg yn y ffordd yna, wedi helpu eitha’ lot.”