Mae Gweinidog Cysgodol Addysg Plaid Cymru, Siân Gwenllian, wedi galw am eglurder ynglŷn â sut mae’r gronfa dal-i-fyny addysg wedi cael ei gwario.

Daw hyn wrth i ddadansoddiad gan felin drafod y Sefydliad Polisi Addysg (yr EPI) ddweud bod cynigion ar gyfer cymorth dal-i-fyny ar draws holl wledydd y Deyrnas Unedig yn annhebygol o fynd i’r afael â’r holl ddysgu a fethwyd yn sgil y pandemig.

Mae’r adroddiad yn cymharu’r rhaglenni a sefydlwyd gan Lywodraethau Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i helpu plant sydd wedi wynebu bron i flwyddyn o darfu ar eu haddysg.

Dywedodd yr adroddiad bod tua £40m wedi ei glustnodi i ddisgyblion Cymru – sef £88 i bob disgybl, tra bod y ffigwr yn yr Alban yn £140m – £200 i bob disgybl – ac yn Lloegr £1.2bn, sef £174 i bob disgybl.

Mae’r ymchwilwyr wedi dod i’r casgliad bod yr holl gynlluniau dal i fyny presennol yn “annigonol” ac maent yn galw ar y llywodraethau i sefydlu rhaglenni addysg aml-flwyddyn sydd wir mynd i’r afael â’r holl ddysgu a gollwyd.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun gwerth £29m er mwyn talu am staff dysgu ychwanegol ym mis Gorffennaf – wedi’i thargedu at ddisgyblion difreintiedig a disgyblion mewn blynyddoedd arholiadau pwysig.

Fodd bynnag, mewn un o Bwyllgorau’r Senedd ym mis Ionawr 2021, cadarnhaodd y Gweinidog Addysg fod y £29m “yn cael ei wario ar gyflogau pobl yn bennaf” ond gydag arian “wedi’i ddyrannu i recriwtio pobl.”

“Cynlluniau Llywodraeth Cymru ar ei hôl hi”

Dywedodd Gweinidog Cysgodol Addysg Plaid Cymru, Siân Gwenllian AoS: “Rydym wedi clywed na ddylid gadael unrhyw blentyn ar ôl … ond rydym mewn sefyllfa lle mae pob plentyn yng Nghymru wedi colli amser wyneb yn wyneb gwerthfawr gyda’u hathrawon, ac mae angen cynllun cadarn arnom i helpu i adfer y dysgu coll.

“Er bod ymdrechion wedi’u gwneud i gadw ysgolion ar agor am gyfnod mor hir â phosibl, mae’r adroddiad … yn datgelu bod presenoldeb wedi bod yn is yng Nghymru o’i gymharu â chenhedloedd eraill y DU, ac mae hyn yn arbennig o amlwg mewn ardaloedd difreintiedig.

“Mae cynlluniau Llywodraeth Lafur Cymru ar ei hôl hi o ran helpu disgyblion i ddal i fyny. Gwyddom fod plant o ardaloedd difreintiedig yn llai tebygol o allu manteisio ar ddysgu ar-lein, ac felly mae perygl bod y plant hyn wedi colli’r mwyaf o amser dysgu – anfantais ddwbl.

“Rhaid canolbwyntio ar allu darparu cymaint o ddysgu wyneb yn wyneb â phosibl, wedi’i dargedu at y plant hynny sydd wedi colli’r mwyaf o ddysgu, a dim ond drwy ymgyrch recriwtio enfawr y gellir cael hyn. Nid yw adfer addysg yn ymwneud â dal i fyny ar ei ben ei hun yn unig, rhaid iddo fod yn rhan o strategaeth ar gyfer addysg ar ôl Covid.

“Mae’r adroddiad … yn ein hatgoffa o’r her sydd o’n blaenau, ond mae Llywodraeth Plaid Cymru yn barod ac wedi’i pharatoi’n llawn i allu ymgymryd â’r her honno.”

“Galluogi plant a phobl ifanc i ddychwelyd i addysg wyneb-yn-wyneb yn parhau’n flaenoriaeth”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae galluogi plant a phobl ifanc i ddychwelyd i addysg wyneb-yn-wyneb yn parhau’n flaenoriaeth, ac rydym yn deall fod yr amharu ar addysg dros y flwyddyn ddiwethaf wedi golygu mwy na dim ond colli cynnwys i ddysgwyr.

“Ry’n ni wedi buddsoddi £29m yn ein rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau i ddysgwyr gan arwain at recriwtio mwy na 1,000 o athrawon a staff cefnogol i ddarparu cefnogaeth ychwanegol i’r rhai sydd wedi methu addysg oherwydd y pandemig.”

Llun o fyrddau a chadeiriau lliwgar mewn dosbarth

Cynlluniau dal-i-fyny addysg yn ‘annigonol’, medd adroddiad

Cymru’n gwario llai na hanner yr hyn sy’n cael ei wario fesul disgybl yn yr Alban, ond cynllun Cymru wedi’i dargedu’n well at blant difreintiedig