Roedd gôl hwyr gan y Cymro Connor Roberts yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Abertawe yn erbyn Nottingham Forest neithiwr (nos Fercher, Chwefror 17).

Forest oedd y tîm gorau am y rhan fwyaf o’r gêm, ond peniodd Conor Roberts i gefn y rhwyd gyda munudau yn weddill.

Golyga’r triphwynt fod tîm Steve Cooper wedi dringo’n ôl i fyny i’r trydydd safle, un pwynt y tu ôl i Brentford a chyda dwy gêm wrth gefn.

Dangosodd Abertawe, sydd â’r record amddiffynnol orau yn y Bencampwriaeth, eu gwydnwch i beidio ildio gôl am yr unfed tro ar bymtheg mewn 28 o gemau cynghrair y tymor hwn.

A dyma oedd yr ail dro i Roberts sgorio’r gôl fuddugol yn erbyn Forest y tymor hwn – ar ôl sgorio’r unig gôl yn y City Ground ym mis Tachwedd.

Dim ond 25 diwrnod oedd wedi bod ers i Abertawe sicrhau buddugoliaeth ysgubol 5-1 yn erbyn Nottingham Forest yng Nghwpan yr FA.

“Angen chwarae’n well yn y gêm nesaf” – Steve Cooper

Dywedodd rheolwr Abertawe Steve Cooper: “Dydw i ddim yn mynd i eistedd yma a dweud ein bod ni’n wych yn y gêm, oherwydd mewn rhannau o’r perfformiad doedden ni ddim, yn enwedig gyda’r bêl.

“Ar adegau, roeddem yn ei chael hi’n anodd cael ein safle’n iawn ar y cae a chwarae gyda digon o rythm a dwyster, yn enwedig yn yr hanner cyntaf.

“Roeddwn i’n meddwl bod y gêm yn mynd tuag at 0-0. Mae Forest yn dîm da iawn ac mae ganddynt lawer o chwaraewyr profiadol a thalentog.

“Roedden ni’n teimlo, yn yr ail hanner, bod rhaid i ni wneud rhai newidiadau tactegol, cael mwy o chwaraewyr ymosodol ymlaen, a chael rhywfaint o led a gobeithio y byddai pethau’n troi ychydig.

“Wnaeth e ddim mewn gwirionedd, ond yn y diwedd fe lwyddon ni i greu eiliad dda i fynd i ennill y gêm.

“Rydym wrth ein boddau gyda’r fuddugoliaeth ond yn gwybod y bydd angen i ni chwarae’n well yn y gêm nesaf.”