Mae Rhys Priestland wedi ymuno â Gleision Caerdydd.

Mae’r chwaraewr 34 oed wedi ennill 50 o gapiau i Gymru, ac roedd yn rhan o dîm Cymru gyrhaeddodd rownd gynderfynol Cwpan Rygbi’r Byd yn 2011 ac yn rhan o’r garfan enillodd y Gamp Lawn yn 2012.

Ar ôl cynrychioli’r Scarlets 150 o weithiau symudodd i Gaerfaddon yn 2015.

Bydd yn ymuno â’r rhanbarth yn yr haf ac mae’r Gleision yn gobeithio y bydd y chwaraewr profiadol yn helpu i ddatblygu talent newydd.

“Mae’n bwysig cael chwaraewyr o safon yn cystadlu am bob safle a bydd Rhys yn dod â chryfder a dyfnder pellach i’n dewisiadau rhif 10 ac yn cynyddu’r safon unwaith eto,” meddai Cyfarwyddwr Rygbi dros dro Gleision Caerdydd, Dai Young.

“Mae’n dod â digonedd o brofiad ar ôl chwarae yn yr Uwchgynghrair cyhyd. Mae’n giciwr o’r radd flaenaf, gyda gêm gicio dactegol o ansawdd dda ac mae’n trafod y bêl yn dda ac yn gallu rhedeg y gêm ymosodol tra hefyd yn amddiffyn.

“Mae’n brofiadol, yn broffesiynol iawn, a bydd yn mwynhau cystadlu am le yn y tîm tra’n helpu chwaraewyr ifanc i ddatblygu.”

‘Amser iawn’

“Nawr yw’r amser iawn i ddod yn ôl i Gymru ac rwy’n gyffrous iawn am y dyfodol yng Nghaerdydd,” meddai Rhys Priestland.

“Mae ganddynt garfan gyffrous iawn gyda llawer o chwaraewyr ifanc da a rhai hyfforddwyr ifanc talentog dw i’n eu hadnabod yn dda fel Richie Rees, Tom Smith a Dwayne Peel.

“Mae pawb yn siarad yn dweud pethau da am Dai ac mae wedi cyflawni rhai pethau gwych yn y gêm fel hyfforddwr gyda’r Gleision a’r Wasps, felly dw i’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda fe.

“Mae llawer o botensial yng Nghaerdydd a dw i’n edrych ymlaen yn fawr at chwarae fy rhan. Mae gen i ddigon i’w roi ar y cae o hyd ond dw i hefyd yn gobeithio trosglwyddo fy mhrofiad yn y gêm.

“Dw i wedi mwynhau gwneud hynny yng Nghaerfaddon a byddwn wrth fy modd yn helpu i ddatblygu’r chwaraewyr ifanc yn y Gleision tra’n dysgu gan Jarrod [Evans], gobeithio, sy’n un o’r mewnwyr ymosodol mwyaf talentog.”