Mae grŵp o’r enw ‘Progressive Rugby’ yn galw am “newidiadau radical” i fynd i’r afael ag anafiadau difrifol i’r pen a’r ymennydd.

Mewn llythyr agored at Rygbi’r Byd, mae’r grŵp yn dweud y dylid gwneud mwy hefyd i roi gwybod i rieni am beryglon cyfergydion.

Ymhlith y rhai sydd wedi arwyddo’r llythyr agored mae chwaraewr rheng ôl Cymru, Josh Navidi.

Yn dilyn cyfergyd tra’n hyfforddi, treuliodd Navidi fisoedd i ffwrdd o’r gêm cyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni, a methodd y fuddugoliaeth yn erbyn yr Alban yr wythnos diwethaf gydag anaf i’w wddf.

Mae Rory Lamont, Paul Wallace, Steve Thompson a James Haskell ymhlith y chwaraewyr eraill sydd hefyd wedi arwyddo’r llythyr.

Daw hyn wedi Alix Popham, cyn-chwaraewr rheng ôl Cymru, a chyn-chwaraewyr eraill, ddwyn achos yn erbyn awdurdodau’r gêm fis Rhagfyr y llynedd.

Mae Popham yn dweud fod y gamp wedi ei adael gyda niwed parhaol ar ôl cael diagnosis o arwyddion cynnar dementia. 

Rygbi’r Byd yn ‘cymryd ein cyfrifoldeb o ddifrif’

Atebodd Rygbi’r Byd y llythyr agored, gan ddweud bod llawer o’r cynigion eisoes ar waith.

“Lles ein teulu rygbi byd-eang yw blaenoriaeth Rygbi’r Byd, ac mae wedi bod felly erioed,” meddai Rygbi’r Byd mewn datganiad.

“Rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb o ddifrif ac yn poeni’n fawr am ein cyn-chwaraewyr, chwaraewyr presennol, a chwaraewyr y dyfodol.

“Dyna pam rydym yn sicrhau bod chwaraewyr wrth wraidd ein trafodaethau drwy Chwaraewyr Rygbi Rhyngwladol, a dyna pam rydym yn gwerthfawrogi ac yn croesawu trafodaeth adeiladol, yn parchu barn, ac yn gwrando ar awgrymiadau sy’n hyrwyddo lles.

“Rydym yn flaengar, a dyna pam mae gwybodaeth wyddonol a meddygol a dealltwriaeth gymdeithasol yn parhau i esblygu, mae rygbi’n esblygu gyda hynny.

“Rydym bob amser yn cael ein harwain gan gonsensws meddygol a gwyddonol i lywio ein strategaethau addysg, atal a rheoli cyfergyd.

“Yn amlwg mae’r aelodau hyn o’n teulu rygbi wrth eu bodd â’r gêm ac eisiau iddi fod y gorau y gall fod. Rydyn ni’n gwneud hynny hefyd.

“Mae’n galonogol bod y grŵp yn hyrwyddo nifer o fentrau sydd eisoes yn weithredol neu’n cael eu hystyried ac rydym yn agored i drafodaethau adeiladol gyda nhw ynglŷn â’u cynigion.”

‘Llawer mwy o chwaraewyr yn debygol o ddioddef namau niwrolegol yn y dyfodol’

Mae ‘Progressive Rugby’ yn dweud bod dros 150 o gyn-chwaraewyr yn rhan o’r achos erbyn hyn a bod peryg y gall llawer mwy o chwaraewyr ddioddef yn y dyfodol.

Rhybuddiodd y grŵp fod y mater, heb newidiadau ar unwaith, yn fygythiad i ddyfodol rygbi’r undeb.

Mae’r grŵp yn gofyn am gronfa ddata cyfergyd, pasbortau iechyd, cyflwyno arbenigwyr annibynnol ar yr ymennydd ynghyd â gwyddonwyr chwaraeon, a chyfyngu ar nifer yr eilyddion.

“Rydyn ni i gyd wrth ein bodd gyda’r gêm rygbi, ac eisiau ei gweld yn parhau yn y tymor hir,” meddai Dr Barry O’Driscoll, cyn-gynghorydd meddygol Rygbi’r Byd ar ran ‘Progressive Rugby’.

“Fodd bynnag, mae’r gêm fel y mae wedi torri, gyda llawer mwy o chwaraewyr yn debygol o ddioddef namau niwrolegol yn y dyfodol.”

Mae chwaraewyr rygbi’r gynghrair sydd ag arwyddion cynnar o ddementia hefyd wedi dechrau camau cyfreithiol yn erbyn awdurdodau’r gêm.

Chwe Chymro ymhith y cyn-chwaraewyr sy’n dwyn achos am dementia

“Credwn y gallai hyd at 50% o gyn chwaraewyr rygbi proffesiynol gael cymhlethdodau niwrolegol ar ôl ymddeol.”

Chwe chyn-chwaraewr arall – a Chymro yn eu plith – yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn awdurdodau rygbi

“Rwy’n credu mai’r hyn fydd yn synnu pobol yw oedran y chwaraewyr, ond hefyd y safleoedd yr oeddent yn chwarae ynddynt.”