Mae cynigion ar gyfer cymorth dal-i-fyny ar draws holl wledydd y Deyrnas Unedig yn annhebygol o fynd i’r afael â’r holl ddysgu a fethwyd yn sgil y pandemig, yn ôl dadansoddiad gan felin drafod y Sefydliad Polisi Addysg (yr EPI).

Mae’r adroddiad yn cymharu’r rhaglenni a sefydlwyd gan Lywodraethau Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i helpu plant sydd wedi wynebu bron i flwyddyn o darfu ar eu haddysg.

Mae’n dod i’r casgliad mai’r cyllid a addawyd yn uniongyrchol ar gyfer eu rhaglenni dal i fyny yn Lloegr a’r Alban yw’r mwyaf hael, fesul disgybl.

Ond mae’r rhaglenni dal i fyny yng Nghymru a Gogledd Iwerddon wedi’u targedu’n well o lawer at eu disgyblion mwyaf difreintiedig, meddai’r adroddiad.

Cymru

Mae tua hanner cyllid dal-i-fyny Cymru a Gogledd Iwerddon wedi’i dargedu at ddisgyblion tlotach, o’i gymharu â thua 30% yn Lloegr ac 20% yn yr Alban, yn ôl y dadansoddiad.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun gwerth £29m er mwyn talu am staff dysgu ychwanegol ym mis Gorffennaf – wedi’i thargedu at ddisgyblion difreintiedig a disgyblion mewn blynyddoedd arholiadau pwysig.

Gyda chyllid ychwanegol ar gyfer disgyblion ôl-16 oed, mae’r EPI yn amcangyfrif bod tua £40m wedi ei glustnodi i ddisgyblion Cymru – sef £88 i bob disgybl.

Y ffigwr yn yr Alban yw £140m – £200 i bob disgybl – ac yn Lloegr £1.2bn, sef £174 i bob disgybl.

Golyga hyn bod Cymru’n gwario llai na hanner yr hyn sy’n cael ei wario fesul disgybl yn yr Alban.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae galluogi plant a phobl ifanc i ddychwelyd i addysg wyneb-yn-wyneb yn parhau’n flaenoriaeth, ac rydym yn deall fod yr amharu ar addysg dros y flwyddyn ddiwethaf wedi golygu mwy na dim ond colli cynnwys i ddysgwyr.

“Ry’n ni wedi buddsoddi £29m yn ein rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau i ddysgwyr gan arwain at recriwtio mwy na 1,000 o athrawon a staff cefnogol i ddarparu cefnogaeth ychwanegol i’r rhai sydd wedi methu addysg oherwydd y pandemig.”

‘Annigonnol’

Ond mae’r ymchwilwyr wedi dod i’r casgliad bod yr holl gynlluniau dal i fyny presennol yn “annigonol” ac maent yn galw ar y llywodraethau i sefydlu rhaglenni addysg aml-flwyddyn sydd wir mynd i’r afael â’r holl ddysgu a gollwyd.

Mae’r adroddiad, a arianwyd gan Sefydliad Nuffield, yn dweud bod holl wledydd y DU wedi methu â darparu digon o arweiniad ar sut i gefnogi plant ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau gyda dysgu o bell.

Gallai hyn fod yn “niweidiol iawn” o ystyried y risg y bydd llawer o blant ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau wedi syrthio y tu ôl i’w cyfoedion yn ystod y cyfyngiadau clo cyntaf ac yn debygol o fod angen mwy o gymorth, ychwanega’r papur.

“Dim ond wedyn y byddwn yn dechrau ateb maint yr her a ddaw yn sgil yr argyfwng hwn.”

Dywedodd David Laws, cadeirydd gweithredol yr EPI: “Mae’n amlwg iawn fod y cynigion hyn ond yn cynnig cyfran fach o’r gefnogaeth sydd ei hangen i ddelio â’r amser dysgu enfawr a gollwyd.”

Dywedodd awdur yr adroddiad Luke Sibieta, cymrawd ymchwil yn yr EPI: “Hyd yma, mae Llywodraethau’r Alban a’r DU wedi ymrwymo’r cyllid dal-i-fyny mwyaf. Fodd bynnag, mae’r rhaglenni ar gyfer yr Alban a Lloegr wedi’u targedu’n wael.

“O gymharu, gwelwn fod gan raglenni Cymru a Gogledd Iwerddon gyfanswm cyllid is, ond eu bod yn canolbwyntio mwy o adnoddau ar y disgyblion tlotaf, y gwyddom sydd wedi cael eu taro galetaf.

“Gwyddom y bydd effeithiau andwyol y pandemig yn parhau ymhell y tu hwnt i’r flwyddyn academaidd hon, felly mae’n rhaid i lunwyr polisi ledled y Deyrnas Unedig ystyried darparu cyllid dal-i-fyny ychwanegol dros nifer o flynyddoedd, gyda lefelau llawer uwch wedi’u targedu at y disgyblion mwyaf difreintiedig.

“Dim ond wedyn y byddwn yn dechrau ateb maint yr her a ddaw yn sgil yr argyfwng hwn.”