Mae ymchwil yn awgrymu bod un o bob pum claf diabetes a dderbynnir i’r ysbyty gyda Covid-19 yn marw o fewn 28 diwrnod.
Dangosodd canlyniadau astudiaeth barhaus gan Brifysgol Noaned (Nantes) yn Ffrainc hefyd fod un o bob wyth claf diabetes a dderbyniwyd i’r ysbyty gyda coronafeirws yn dal yn yr ysbyty 28 diwrnod ar ôl iddynt gyrraedd.
Dywedodd Diabetes UK y bydd deall pa bobl sydd yn y perygl mwyaf yn helpu i wella gofal ac achub bywydau.
Mae’r canfyddiadau’n dangos bod 577 o’r 2,796 o gleifion a astudiwyd (21%) wedi marw o fewn 28 diwrnod i fod yn yr ysbyty, tra bod bron i 50% (1,404) wedi’u rhyddhau o’r ysbyty, ar ol arhosiad o naw diwrnod ar gyfartaledd.
Roedd tua 12% yn dal yn yr ysbyty ar ddiwrnod 28, tra bod 17% wedi’u trosglwyddo i gyfleuster gwahanol i’w hysbyty cychwynnol.
Dywedodd awduron astudiaeth CORONADO (Canlyniadau Coronafeirws SARS-CoV-2 a Diabetes), a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn Diabetologia: “Gall nodi newidynnau ffafriol sy’n gysylltiedig â rhyddhau cleifion o’r ysbyty a newidynnau anffafriol sy’n gysylltiedig â marwolaeth arwain at ailddosbarthu cleifion a helpu i ddefnyddio adnoddau’n ddigonol yn ôl proffil cleifion unigol.”
Ym mis Mai y llynedd, awgrymodd canlyniadau cynharach yr astudiaeth, yn seiliedig ar sampl llai o bobl, fod 10% o gleifion Covid â diabetes wedi marw o fewn saith diwrnod i gael eu derbyn i’r ysbyty.
“Helpu i wella gofal ac achub bywydau”
Dywedodd Dr Faye Riley, uwch swyddog cyfathrebu ymchwil Diabetes UK, fod yr astudiaeth yn cefnogi ymchwil flaenorol a ddangosodd fod ffactorau risg penodol, fel oedran hŷn a hanes o gymhlethdodau diabetes, “yn rhoi pobl â diabetes mewn mwy o berygl o niwed os ydyn nhw’n dal y coronafeirws”.
“Mae hefyd yn rhoi cipolwg newydd ar ffactorau sy’n gysylltiedig ag adferiad cyflymach o’r feirws,” meddai.
Dywedodd Dr Riley: “Bydd deall pa bobl sydd â diabetes sydd mewn mwy o berygl os cânt eu derbyn i’r ysbyty gyda’r coronafeirws yn helpu i wella gofal ac achub bywydau.
“Ond mae hefyd yn bwysig cofio bod y risg gyffredinol o farw i bobl sydd â diabetes yn parhau’n isel, ac mae wedi lleihau dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Ers i’r data yn yr astudiaeth gael ei gasglu, mae ein dealltwriaeth o sut i drin y coronafeirws wedi tyfu, ac mae cyffuriau newydd y dangosir eu bod yn lleihau’r risg o farwolaeth bellach yn cael eu defnyddio’n rheolaidd.
“Y ffordd orau y gall pobl sy’n byw gyda diabetes leihau eu risg o fynd yn ddifrifol wael gyda’r coronafeirws yw osgoi cyswllt â’r feirws a chymryd brechlyn.
“Yn y Deyrnas Unedig, mae pobl sydd â diabetes bellach yn cael eu gwahodd i gael eu brechu, gyda’r rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf yn cael eu blaenoriaethu, ac rydym yn eich annog yn gryf i gael y brechlyn pan gewch gynnig y brechlyn.”