Heddiw (dydd Iau, Chwefror 18) mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau amseroedd aros “gwirioneddol” ar gyfer gwasanaethau canser yng Nghymru.

Dyma’r tro cyntaf i ffigurau’r Llwybr Lle yr Amheuir Canser (SCP) gael eu hadrodd o system newydd sy’n casglu data ar lefel y claf.

Cyhoeddwyd y dull symlach newydd ym mis Tachwedd 2018 ac fe’i cyhoeddwyd am y tro cyntaf ochr yn ochr â’r hen ddull ym mis Awst 2019.

Ers mis Rhagfyr 2020 ni chaniateir unrhyw addasiadau sy’n golygu bod yr SCP yn dangos yr union amser yr arhosodd cleifion.

Cymru yw’r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i adrodd ar amseroedd aros canser yn y modd hwn.

Roedd BBC Wales Investigates wedi canfod y gallai miloedd o bobol yng Nghymru farw o ganser oherwydd oedi sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws.

Ffigurau

Mae’r Llwybr Lle yr Amheuir Canser wedi’i gynllunio i dorri amseroedd aros ar gyfer diagnosis a thriniaeth canser, a’r nod yw y bydd pob claf yn dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod o amau bod canser arnynt.

Mae’r ystadegau a gyhoeddwyd heddiw ar gyfer mis Rhagfyr 2020 yn dangos bod 1,345 o gleifion wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf ar y llwybr lle maent yn amau bod canser arnynt ym mis Rhagfyr 2020.

O’r rhain, dechreuodd 882, (65.6%) driniaeth ddiffiniol ar gyfer canser o fewn 62 diwrnod o’r adeg yr amheuwyd bod canser arnynt gyntaf.

A chafodd 7,999 o gleifion gadarnhad nad oeddent yn dioddef â chanser.

“Gwyddom faint yn rhagor o waith y mae ei angen”

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething: “Bydd canser yn effeithio ar un o bob dau ohonom yn ystod ein bywyd. Canser yw’r achos unigol mwyaf o farwolaeth cyn-pryd yng Nghymru ac fe fydd yn cyffwrdd â bywyd pob un ohonom rywbryd.

“Mae’n glir yn ystod y pandemig nad yw llawer o gleifion yr amheuir bod arnynt ganser wedi mynd at eu meddyg teulu.

“Rydyn ni am sicrhau bod pawb yr amheuir bod arno ganser yng Nghymru yn cael mynediad at driniaeth amserol a phriodol a fydd yn sicrhau’r canlyniad gorau posibl, neu’n cael gwybod cyn gynted â phosibl nad oes ganddynt ganser.

“Er bod y ffigurau a gyhoeddir heddiw yn is na’r targed o 75 y cant sydd wedi’i bennu, maent yn ffordd llawer mwy cywir o fesur pa mor hir y mae’n cymryd i atgyfeirio canser a amheuir, i ymchwilio iddo ac i driniaeth ddechrau. Gwyddom faint yn rhagor o waith y mae ei angen i wella perfformiad.”

“Nid yw diagnosis o ganser yn gallu aros”

Dywedodd Richard Pugh, Pennaeth Partneriaethau Cymorth Canser Macmillan a Chadeirydd Cynghrair Canser Cymru: “Rydym yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru’n dal i ddefnyddio’r canser a amheuir, sy’n golygu mai Cymru yw’r unig wlad yn y DU i fesur amseroedd aros ar gyfer canser o’r pwynt yr amheuir canser yn hytrach na’r adeg y daw atgyfeiriad i law.

“Mae hyn yn rhoi darlun mwy cywir inni o amseroedd aros gwirioneddol ar gyfer canser ac mae wedi datgelu amseroedd aros cudd, sydd wedi bod yn bwysicach byth yn ystod pandemig y coronafeirws lle y mae sgrinio a diagnosteg ym maes canser wedi cael eu haflonyddu.

“Nid yw diagnosis o ganser yn gallu aros felly hoffem annog unrhyw un sydd â symptomau newydd sy’n peri pryder megis peswch cyson, lwmpyn neu waedu anesboniadwy, i gysylltu â’u Hymarferydd Cyffredinol cyn gynted â phosibl.

“Gall un sydd am gael gwybodaeth, cymorth neu sgwrs am ganser gysylltu â Macmillan am ddim ar 0808 808 0000.”