Mae Heddlu Gwent wedi cyfeirio ei hun at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (yr IOPC) ar ôl i ddyn farw yn dilyn galwad frys.

Bu farw Moyied Bashir ddydd Mercher wedi i swyddogion gael eu galw i’w gartref yng Nghasnewydd am tua 9 y bore.

Cafodd swyddogion Heddlu Gwent eu galw i ardal Maesglas yng Nghasnewydd am 09:00 ddydd Mercher, Chwefror 17, yn dilyn pryderon am les unigolyn.

Yn ôl y llu roedd dyn 29 oed yn dioddef yn “feddygol” pan gyrhaeddodd swyddogion.

Bu farw ar ôl cael ei gludo i ysbyty yng Nghwmbrân.

Mae cyfeirio at yr IOPC – corff gwarchod yr heddlu – yn arfer safonol yn dilyn marwolaeth ar ôl cyswllt â’r heddlu.

“Dywedodd yr heddlu, tra bod swyddogion yn dal i fod yn yr eiddo, nodwyd bod cyflwr y dyn wedi dirywio. Galwyd ambiwlans ac fe’i cymerwyd i’r ysbyty lle’r oedd yn amlwg yn farw yn ddiweddarach,” meddai Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.

“Anfonwyd ein hymchwilwyr i’r eiddo a [chynhaliwyd] gweithdrefnau ôl-ddigwyddiad lle mae’r swyddogion oedd yn rhan o’r digwyddiad wedi darparu gwybodaeth gychwynnol.”

“Mae ein hymchwiliad i natur y cyswllt a gafodd swyddogion yr heddlu gyda’r dyn yn ei gamau cynnar iawn.”

Yn dilyn y digwyddiad mynychodd tua 100 o bobl brotest y tu allan i orsaf heddlu yn galw am ragor o wybodaeth am y farwolaeth.

Gorymdeithiodd protestwyr, dan arweiniad brawd Mr Bashir, Mohamed, drwy ardal Pillgwenlli yn y ddinas gan weiddi “dim cyfiawnder, dim heddwch” ac ymgynnull y tu allan i Orsaf Heddlu Canol Casnewydd.

Daw hyn fis ar ôl i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu gadarnhau eu bod nhw’n ymchwilio i farwolaeth Mohamud Hassan o Gaerdydd ar ôl iddo fod yn y ddalfa yno.