Mae cyflwyno cosbau llymach i bobol sy’n cam-drin anifeiliaid “un cam yn agosach” yn Nghymru, medd yr RSPCA.

Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru ystyried memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a fyddai’n caniatáu darpariaethau yn y Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu) – Mesur Aelodau Preifat San Steffan a noddir gan Chris Loder AS – i ddod i rym yng Nghymru hefyd.

O dan y cynigion, byddai’r ddedfryd am droseddau creulondeb anifeiliaid yn cynyddu ddeg gwaith – o chwe mis i bum mlynedd.

Bydd Aelodau o’r Senedd yn pleidleisio ar y Memorandwm, ac os byddant yn ei gefnogi, byddai’r newid yn digwydd yng Nghymru hefyd.

Ar hyn o bryd mae gan Gymru a Lloegr rai o’r dedfrydau isaf yn y byd ar gyfer troseddau lles anifeiliaid.

Ar ddechrau mis Chwefror, pasiodd y Mesur y cyfnod Pwyllgor yn Nhŷ’r Cyffredin.

Mae’r RSPCA yn gobeithio y gall y Mesur gwblhau ei daith ddeddfwriaethol cyn diwedd y sesiwn seneddol hon, gan annog Llywodraeth San Steffan i wneud amser ar ei gyfer.

Dywedodd pennaeth materion cyhoeddus yr RSPCA, David Bowles: “Mae Cymru un cam yn nes at ddedfrydau llymach i’r sawl sy’n cam-drin anifeiliaid.

“Rydym wedi cefnogi cyflwyno dedfrydau llymach mewn llysoedd ers amser maith – ac mae’r Memorandwm hwn yn paratoi’r ffordd i Fil Chris Loder AS fod yn berthnasol i Gymru hefyd.

“Yn San Steffan, rydym yn parhau i annog ASau, Arglwyddi a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud popeth o fewn eu gallu i gael Bil Chris Loder drwodd; ac yng Nghymru gobeithiwn y bydd Aelodau’r Senedd yn cefnogi’r Memorandwm hwn, fel bod mwy o anifeiliaid yn cael y cyfiawnder y maent yn ei haeddu.”