Mae pensiynwr a dagodd ei wraig bum niwrnod i mewn i’r cyfyngiadau clo cyntaf wedi cael ei ddedfrydu i bum mlynedd yn y carchar.
Dywedodd Anthony Williams, 70, wrth yr heddlu ei fod “wedi tagu” ei wraig Ruth, 67, yn eu cartref yng Nghwmbrân fore Mawrth 28 y llynedd, wedi iddo “snapio” yn dilyn cyfnod o deimlo’n ddigalon ac yn bryderus.
Cafwyd Williams yn ddieuog o lofruddiaeth ddydd Llun yn dilyn achos lle dadleuodd seicolegydd fod ei bryder “wedi dwysáu” oherwydd y cyfyngiadau, a oedd yn amharu ar ei allu i arfer hunanreolaeth.
Ddydd Iau fe ymddangosodd i gael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ar ôl cyfaddef dynladdiad oherwydd cyfrifoldeb lleiedig.
“Achos trasig ar sawl lefel”
Dywedodd y Barnwr Paul Thomas ei fod yn “achos trasig ar sawl lefel”, ond yn ei farn ef cafodd cyflwr meddyliol Williams ei “effeithio’n ddifrifol ar y pryd”.
Dywedodd y Barnwr Thomas: “Y drasiedi fwyaf ysgubol yma yw dynes 67 oed oedd â chymaint o fywyd i fyw, yn colli ei bywyd oherwydd gweithred o drais mawr yn nwylo, yn llythrennol, dyn roedd hi’n ei garu am bron i 50 mlynedd.”
Dywedodd Williams wrth yr heddlu ei fod wedi dioddef nosweithiau di-gwsg yn y cyfnod cyn yr ymosodiad oherwydd ofnau “dibwys”, gan gynnwys pryder y byddai’n rhedeg allan o arian.
Mewn cyfweliadau a ddarllenwyd i’r rheithgor, cytunodd Williams â ditectifs mai ef oedd yn gyfrifol am ladd ei wraig o 46 mlynedd, gan ddweud wrthynt ei fod wedi “snapio” tra yn y gwely.
Dywedodd ei fod wedi dechrau ei thagu ar ôl iddi ddweud wrtho am “ddod dros” ei bryderon.
Dywedodd ei fod wedi mynd ar ôl ei wraig i lawr y grisiau a’i chipio gerfydd ei gwddf wrth iddi geisio datgloi’r drws ffrynt i ddianc, gan ddweud ei fod wedi “ei thagu i farwolaeth”.
Cafodd Mrs Williams ei chanfod ym mhortsh cartref y cwpl gyda phâr o allweddi yn ei llaw.
Aethpwyd a hi i’r ysbyty lle dywedwyd ei bod wedi marw ar ôl dioddef gwaedlif yn ei llygaid, ei hwyneb a’i cheg yn ogystal â phum asgwrn wedi torri yn ei gwddf – sy’n yn gyson â thagu.
Rhoddwyd ei hachos marwolaeth fel pwysau i’r gwddf, gyda patholegydd yn dweud nad oedd diffyg marc o reidrwydd yn golygu na ddefnyddiwyd cord gŵn gwisgo “meddal” a ganfuwyd yn eu cartref.
Arestiwyd Williams ar amheuaeth o lofruddiaeth yn y fan a’r lle a dywedodd wrth swyddogion: “Mae’n ddrwg gennyf, fe wnes i snapio, mae’n ddrwg gennyf.”
Dywedodd merch y cwpl, Emma Williams, 40, wrth y llys bod ei rhieni wedi treulio “90% o’u hamser gyda’i gilydd”, eu bod “ddim yn bobl am ddadlau”, ac nad oedd hi erioed wedi clywed y naill na’r llall hyd yn oed yn “codi eu llais” ar ei gilydd.
Dywedodd Ms Williams: “Mae fy nhad yn gawr tyner.”
“Obsesiwn”
Ond dywedodd fod Williams wedi dangos arwyddion o ymddygiad rhyfedd o fis Ionawr 2020 ymlaen, gan gynnwys honni ei fod yn mynd i golli’r cartref a datblygu “obsesiwn” gyda diffodd goleuadau a gwres i arbed arian.
Ond dywedodd fod gan y cwpl gynilion o tua £148,000, yn ogystal â £18,000 yn eu cyfrif cyfredol yn y dyddiau cyn cyhoeddi’r cyfyngiadau clo.
Dywedodd Ms Williams bod ei thad yn gwylio adroddiadau newyddion ar y pandemig byd-eang “drwy’r amser” ac yn credu “nad oes neb byth yn gadael y tŷ eto”.
Ni roddodd Williams dystiolaeth yn ei achos, ond dywedodd wrth gyfwelwyr yr heddlu ei fod wedi poeni am fethu â phrynu esgidiau newydd a’r anallu i gael rhywun i drwsio teils ar y to pe baent yn dod yn rhydd.
Dywedodd hefyd ei fod wedi cael y cyfyngiadau clo “mewn gwirionedd, yn anodd iawn” a dim ond pum niwrnod i mewn i’r cyfyngiadau roedd yn teimlo’n “isel” a’i fod yn poeni y byddai’r cwpl yn rhedeg allan o arian parod oherwydd bod banciau ar gau.
Dywedodd ei fod wedi ymdopi “ddim yn dda iawn” yn y 18 mis ers iddo ymddeol o ffatri Just Rollers Cwmbrân, gan ddweud nad oedd gan y cwpl “lawer o fywyd cymdeithasol”.
Ond disgrifiodd ei wraig fel person “hapus” ers iddi ymddeol o siop Asda bedair blynedd yn gynharach, er iddi gael diagnosis o iselder.
Dywedodd y seicolegydd Dr Alison Witts wrth yr achos bod pryder ac iselder Williams wedi’u “dwysáu” gan y mesurau coronafeirws anodd a osodwyd ddyddiau ynghynt gan amharu ar ei allu i arfer hunanreolaeth.
Dywedodd Dr Witts fod swydd Williams yn y ffatri wedi bod yn “un o’i brif fecanweithiau ymdopi” o ran ei “agwedd niwrotig”, ond pan ymddeolodd fe “gollodd yr holl strwythur ac ymdeimlad o bwrpas”.
Ond dywedodd seicolegydd arall, Dr Damian Gamble, nad oedd gan Williams hanes dogfennol o ddioddef iselder a bod “dim amddiffynfeydd seiciatrig” ar gael iddo, gan ddweud ei fod yn credu bod Williams yn “gwybod beth roedd yn ei wneud ar y pryd”.
Hefyd heddiw, cafodd Helen Mary Jones AoS ei cheryddu gan Farnwr yr achos am rannu trydariad ‘amhriodol’ am yr achos.
Gallwch ddarllen mwy am hynny isod.
Ceryddu Helen Mary Jones am rannu trydariad am achos llys