Mae’r Aelod Seneddol Llafur Harriet Harman wedi galw am adolygu dedfryd Anthony Williams, a gafodd ei garcharu am bum mlynedd am ddynladdiad ei wraig.
Mae Harriet Harman, a fu yn Weinidog tros Ferched yn Llywodraeth Lafur Tony Blair, yn credu fod y ddedfryd o bum mlynedd yn “rhy drugarog”.
Fe wnaeth Anthony Williams, 70, gyfaddef iddo dagu ei wraig Ruth, 67, i farwolaeth yn eu cartref yng Nghwmbrân ar Fawrth 28 y llynedd, ar ôl cael pwl o iselder a gorbryder.
Cafodd ei glirio o lofruddiaeth gan reithgor, gyda’r Barnwr Paul Thomas yn dweud bod cyflwr meddyliol Anthony Williams wedi cael ei “effeithio’n ddifrifol ar y pryd” oherwydd ei iselder a’i bryder difrifol.
Cafodd ei ddedfrydu i bum mlynedd yn y carchar ddydd Iau yn Llys y Goron Abertawe am ddynladdiad, ar ôl ei gael yn ddieuog o lofruddiaeth yn dilyn tystiolaeth y cafodd ei gyflwr meddyliol ei “effeithio’n ddifrifol” yn ystod y cyfyngiadau clo.
Dywedodd Harriet Harman ar Twitter: “Rwyf heddiw wedi cyfeirio dedfryd pum mlynedd Anthony Williams am ladd ei wraig Ruth Williams i’r Twrnai Cyffredinol Suella Braverman, yn gofyn iddi ei gyfeirio i’w adolygu fel Dedfryd Rhy Drugarog.”