Mae nifer o grwpiau, elusennau ac academyddion wedi gwrthwynebu cynlluniau i atal pobol sydd heb gerdyn neu ddull arall o adnabod rhag bwrw eu pleidlais mewn etholiadau.

Mae adroddiadau y bydd y cynllun yn costio £20m ym mhob etholiad ac y bydd union fanylion y newid yn cael eu nodi mewn mesur newydd i’w gyhoeddi yn araith y Frenhines yn y gwanwyn.

Mae’r Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol – sef prif grŵp democratiaeth Cymru – yn dweud bod y polisi yn peri risg i ddemocratiaeth ac i gydraddoldeb, ac maen nhw wedi ei disgrifio fel “blaenoriaeth gwbl anghywir” yn ystod y pandemig.

Mae Cyngor Ieuenctid Prydain, Age UK, Stonewall, Liberty, Byddin yr Iachawdwriaeth, y Rhwydwaith Hawliau Mudwyr, a’r Sefydliad Cydraddoldeb Hiliol wedi gwrthwynebu’r cynlluniau gan dynnu sylw at yr effaith anghyfartal y byddai’n ei gael ar grwpiau sydd eisoes o dan anfantais.

‘Etholiadu yng Nghymru eisoes yn ddiogel’

“Mae perygl i’r cynlluniau hyn wthio democratiaeth allan o afael miloedd o bobol yng Nghymru ym mhob etholiad,” meddai Jess Blair, Cyfarwyddwr ERS Cymru.

“Mae etholiadau yng Nghymru eisoes yn ddiogel, ac mae’n fyrbwyll ac yn anghywir gosod y polisi drud hwn ar adeg pan fo problemau llawer mwy y dylai llywodraeth y DU fod yn poeni amdanynt.

“Os nad oes gennych eich ID yn y swyddfa bost, gallwch fynd yn ôl y diwrnod wedyn. Gyda’ch pleidlais, mae eich pleidlais wedi mynd am byth. Rhaid i Lywodraeth Cymru nid yn unig siarad yn gryf yn erbyn y cynigion annymunol hyn ond archwilio pob llwybr i’w wrthwynebu.

“Mae’r polisi hwn yn beryglus hwn yn tynnu sylw oddi ar y pandemig ac rydym yn annog llywodraeth Cymru i wrando ar y gymdeithas sifil a herio’r polisi ’dangos eich papurau’ hwn.”

Mae ffigyrau swyddogol yn dangos mai dim ond un achos o ffugio pleidlais oedd yn ystod etholiad 2019.

Pe bai newid, fydd e ddim yn weithredol tan etholiadau lleol 2023.