Cymru yw’r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i roi dos cyntaf o frechlyn Covid-19 i draean o’r boblogaeth o oedolion.

Ddoe (dydd Gwener, Chwefror 19), cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 839,065 o bobol wedi derbyn eu dos cyntaf o’r brechlyn – sy’n cyfateb i 33.3% o oedolion y wlad.

32.1% yw’r ffigwr yn Lloegr, 31.3% yn yr Alban a 29.4% yng Ngogledd Iwerddon.

Mae 25,433 wedi derbyn ail ddos o’r brechlyn yng Nghymru.

‘Ymdrechion enfawr’

Yn ystod cynhadledd i’r wasg ddoe, fe wnaeth y prif weinidog Mark Drakeford ganmol ymdrech y rhai sydd yn ymwneud â rhaglen frechu’r wlad.

“Rydyn ni’n gwneud cynnydd da iawn gyda’n rhaglen frechu diolch i ymdrechion enfawr pawb sy’n gysylltiedig ledled Cymru,” meddai.

“Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod bron i 840,000 o bobl yng Nghymru eisoes wedi cael eu dos cyntaf ac mae hynny’n cyfateb i draean llawn o boblogaeth oedolion Cymru.

“Yr wythnos hon, fe ddechreuon ni gynnig apwyntiadau i bobol ar gyfer yr ail ddos ac mae mwy na 25,000 o bobl eisoes wedi cael eu rhai nhw.

“Rydym ar y trywydd iawn i gyrraedd y garreg filltir nesaf, i gynnig brechiad i bawb mewn grwpiau blaenoriaeth pump i naw erbyn diwedd mis Ebrill, ar yr amod bod cyflenwadau brechlynnau hefyd yn parhau ar y trywydd iawn.”

Yn ystod y gynhadledd, cyhoeddodd Mark Drakeford y byddai cyfyngiadau ‘aros gartref’ yn parhau am dair wythnos arall.

‘Chwarter y boblogaeth wedi’u brechu’

Y Gweinidog Iechyd yn amlinellu pwy fydd yn cael eu brechu nesaf – disgwyl i grwpiau blaenoriaeth 5 i 9 gael eu brechu erbyn diwedd mis Ebrill