Bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cyhoeddi adolygiad diweddaraf rheolau Covid-19 yn nes ymlaen heddiw.

Bydd yn cyhoeddi y bydd y cyfyngiadau ‘aros gartref’ yn parhau mewn grym am dair wythnos arall ac y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r tair wythnos nesaf i sicrhau bod ysgolion yn ailagor yn ddiogel.

Bu aelodau o’r cabinet yn cyfarfod ddoe, Chwefror 18, i ystyried y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae’r arwyddion cynnar yn galonogol, ac maent yn gobeithio y bydd modd i holl ddisgyblion cynradd a rhai myfyrwyr hŷn ailddechrau dysgu wyneb yn wyneb o ddydd Llun, Mawrth 15.

Dyma’r drydedd gwaith i Lywodraeth Cymru adolygu rheolau Covid-19 yn ffurfiol ers i’r cyfyngiadau cenedlaethol Lefel 4 ddod i rym yng Nghymru ar Ragfyr 20.

Doedd dim newid yn yr adolygiad cyntaf ar Ionawr 8, ond cyhoeddwyd peth newidiadau yn yr ail adolygiad ar Ionawr 29.

Ers hynny mae hawl gan bobol i ymarfer corff gydag un person arall a chreu swigen gymorth newydd.

Mae disgwyl y bydd newidiadau i siopau dianghenraid a gwasanaethau cysylltiad agos yn yr adolygiad nesaf o’r cyfyngiadau ar Fawrth 12, cyn belled â bod y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn parhau i wella.

‘Llwybr tan y Pasg’

Dydy Mark Drakeford ddim yn disgwyl y bydd llacio sylweddol tan wyliau’r Pasg, sydd ar benwythnos cyntaf mis Ebrill eleni.

Bydd y cyfyngiadau yn cael eu hailasesu eto cyn hynny, ar Ebrill 2.

“Bydd rhaid gweld os gallwn ni fwrw ymlaen â chael nifer y bobol sydd yn dioddef o coronafeirws yng Nghymru i lawr,” meddai wrth BBC Radio Cymru ddechrau’r wythnos.

“Mi ydym ni wedi llwyddo i wneud hynny ers y Nadolig ac ar hyn o bryd mae o gwmpas 100 o bobol i bob can mil yn dioddef o’r coronafeirws [yng Nghymru].”

Roedd dros 600 o achosion i bob 100,000 o’r boblogaeth ar ddechrau’r cyfnod clo yma.

“Os gallwn ni fwrw ymlaen i adeiladau ar y llwyddiant yna… galla i weld llwybr tan y Pasg ble gallwn ni ddechrau yn ofalus i lacio’r cyfyngiadau sydd gennym ni ar hyn o bryd.”

Bydd Mark Drakeford yn rhoi diweddariad llawn mewn cynhadledd i’r wasg brynhawn dydd Gwener, Chwefror 19

Ymateb y gwrthbleidiau

Roedd y gwrthbleidiau wedi galw am roi blaenoriaeth i les corfforol a meddyliol wrth lacio’r cyfyngiadau.

“Er bod dull gofalus o ddod allan o’r cyfyngiadau symud yn synhwyrol, mae angen i ni hefyd darparu map a llwybr clir i adferiad i bobl ledled Cymru,” meddai Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Hoffem hefyd weld ystyriaeth yn cael ei rhoi ym maes lles corfforol a meddyliol a’r posibilrwydd o lacio’r cyfyngiadau ar ymarfer corff.

“Mae’n bwysig bod gweinidogion yn rhoi llwybr clir i fusnesau ailagor, ac er na fyddant yn gallu darparu sicrwydd, bydd amserlenni bras o fudd i lawer yn y sectorau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth sy’n cynllunio er mwyn goroesi.

Yn y cyfamser, mae Arweinydd Plaid Cymru hefyd wedi galw am lacio’r cyfyngiadau yn ymwneud ag ymarfer corff, ond yn dweud y dylai unrhyw lacio fod ar sail “data nid dyddiadau”.

“Ni allwn anwybyddu’r argyfwng iechyd meddwl sydd wedi’i deillio o’r pandemig. Mae’n hanfodol bod popeth posibl yn cael ei wneud i alluogi campfeydd i fod ymhlith y cyfleusterau cyntaf i ailagor,” meddai Adam Price.

“Mae unigrwydd ac arwahanrwydd hefyd yn her wirioneddol i lawer o bobol, a gobeithiwn y bydd y llywodraeth yn canolbwyntio’n ar ddychwelyd i swigod cartref estynedig yn ddiogel.

“Dylid llacio’r cyfyngiadau yn ofalus mewn modd synhwyrol – byddai’n dda ailgyflwyno’r neges ‘aros yn lleol’ cyhyd ag y bo angen.”

Mark Drakeford yn awgrymu na fydd rheolau Covid-19 yn newid tan y Pasg

Os bydd achosion yn parhau i ostwng ar yr un raddfa mae’r Prif Weinidog yn gobeithio bydd modd llacio’r rheolau adeg y Pasg