Mae Cadw yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan fusnesau lleol, annibynnol, i redeg a rheoli cyfleuster arlwyo newydd, mewn ciosg dros dro yng Nghastell Caernarfon.

Bydd y safle hunangynhwysol yn darparu lluniaeth ysgafn gydag opsiynau tecawê a nifer cyfunedig o seddi tu fewn, gyda’r bwriad o agor erbyn mis Mehefin, 2021.

Mae’n rhan o gynllun £4miliwn sydd wedi’i arwain gan Cadw i ailddatblygu’r castell a chreu caffi newydd a lifft i fynd ag ymwelwyr i rannau sydd heb eu gweld o’r blaen.

Y bwriad, yw agor cyfleuster arlwyo parhaol, sef Caffi Castell flwyddyn nesaf yn y gobaith y bydd hynny’n ffurfio ail ran o’r berthynas rhwng Cadw a thenantiaid llwyddiannus y Ciosg Dros Dro.

“Er budd cymunedau lleol”

Cafodd y cynlluniau i adnewyddu’r castell, sy’n denu oddeutu 200,000 o ymwelwyr mewn blwyddyn arferol, y golau gwyrdd ym mis Tachwedd llynedd, wedi’i Gyngor Gwynedd gymeradwyo’r cais caniatâd cynllunio.

Yn fuan wedi hynny, cafodd  190 tunnell o sgaffaldiau eu codi er mwyn sicrhau mynediad i ben tyrau Porth y Brenin sy’n 25m o uchder.

Mae disgwyl i’r gwaith adnewyddu gael ei gwblhau yn gynnar flwyddyn nesaf – ond tan hynny, fydd y Ciosg Dros Dro yn darparu lluniaeth ysgafn i ymwelwyr fwynhau, gan ddarparu seddi tu fewn a thu allan ar dir y Castell.

Mae’r ddogfen sy’n darparu gwybodaeth ynglŷn â’r cynnig yn nodi:

“Mae Cadw bob amser yn ceisio datblygu ffrydiau refeniw i helpu cefnogi ei waith ac er budd cymunedau lleol.

“Un maes masnachol allweddol lle mae Cadw yn awyddus i ddatblygu ymhellach yw darparu bwyd a diod ar draws ystod o safleoedd a chynnig cyfleoedd i fusnesau lleol weithio gyda Cadw, mewn perthynas â hyn.”

“Ydyn nhw angen caffi yn y Castell?”

Er hynny, mae rhai caffis yng Nghaernarfon yn pryderu ynglŷn ag effeithiau negyddol y datblygiad newydd i’w busnesau a hynny ar gynffon flwyddyn anodd iawn beth bynnag.

Agorodd Caffi Tŷ Winsh, o dan reolaeth Pat ac Alwyn Hughes, ym mis Awst llynedd.

“Ydyn nhw angen caffi yn y Castell?!” gofynna Pat Hughes.

“Os ydi pobl yn gwybod bod yna gaffi yn mynd i fod yn y castell, fydda nhw yn meddwl “we’ll have something to eat whilst we’re in the castle” yn hytrach na bod nhw’n pario wrth ymyl y doc a phasio ni,” meddai.

“Mae’n siŵr bod o yn mynd i effeithio ar bob caffi yn y dref fyswn i’n feddwl – dydw i ddim in favour ohono fo ond does yna ddim ffordd rownd o.

“Pobol leol ydyn ni sy’n trio gwneud bywoliaeth,” meddai, “ac mae’r castell yn manteisio ar y ffaith bod nhw mewn adeilad hanesyddol – sydd yn mynd i ddenu pobol.

“Maen nhw’n cael pres gan bobl sy’n talu i fynd i mewn i’r castell beth bynnag,” meddai.

Tŷ Winsh, Caernarfon

“Arian wedi dŵad o’r pwrs y Llywodraeth”

Mae dirprwy gwnstabl y Castell a Maer Tref Caernarfon, Tudor Owen, hefyd wedi rhannu ei bryderon.

“Dwi yn teimlo dros y caffis,” meddai.

“Mae’r arian wedi dŵad o’r pwrs y Llywodraeth – dyna sydd yn talu am y caffi –  wedyn dwi’n teimlo bod lleill yn gaffis preifat – nhw sydd bia’r caffis yna.

Disgrifiodd y cynnig gan Cadw i fusnesau lleol gymryd drosodd y Caffi Ciosg Dros Dro fel “sweetener bach”.

“Unwaith fydd y caffi yn gored – yr un iawn – ella fydd ganddyn nhw staff eu hunain, does bosib gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd hefo hwnnw.”

Ymateb Cadw

“Mae’r cais cynllunio ar gyfer y gwaith ar Gastell Caernarfon wedi ei basio.

“Rydym yn gobeithio y bydd  mwy o bobl yn ymweld â’r castell, Caernarfon a’r caffis lleol o ganlyniad i’r gwaith.

“Byddwn yn chwilio am gwmni lleol i redeg Caffi Ciosg Dros Dro, a busnes  Caffi’r Castell, a rydym am weithio gyda busnesau lleol, fel rydym wedi’i wneud yn llwyddiannus iawn yn Harlech, ble y mae gan berchennog caffi lleol ail safle o fewn y castell.”

Poeni y gallai caffi newydd yng Nghastell Caernarfon ddwyn cwsmeriaid caffis eraill y dref

Huw Bebb

“Y gobaith yw, os fydd y cais yn cael ei dderbyn, y bydd mwy o bobl yn ymweld a’r castell, Caernarfon, a’r caffes lleol.”