Mae dyn “peryglus” wedi cael ei garcharu yn dilyn ymosodiad ar ddynes ifanc yng Nghaerdydd.

Cafodd Craig Walters, sydd hefyd yn defnyddio’r cyfenwau Watts a Whites, ei adnabod gan ddefnyddio technoleg adnabod wynebau ar fws yn y brifddinas.

Cafodd y dyn 39 oed ei arestio o fewn 48 awr ar ôl yr ymosodiad yn ardal Pontprennau am oddeutu 10.50 y nos ar Dachwedd 10 y llynedd, ac fe blediodd yn euog fis diwethaf i gaethiwo person gyda’r bwriad o gyflawni trosedd ryw.

Cafodd ei garcharu ar ddiwedd achos yn Llys y Goron Caerdydd.

Yr ymosodiad

Dywed yr heddlu fod y dyn wedi dilyn y ddynes wrth iddi gerdded ar laswellt, a’i fod e wedi gafael ynddi o’r tu ôl.

Brwydrodd hi nes iddo ollwng ei afael arni, gan weiddi am gymorth.

Pan ddaeth aelod o’r cyhoedd ati, rhedodd Craig Walters i ffwrdd.

Dywed yr heddlu ei fod e’n hysbys iddyn nhw ar y pryd, a’u bod nhw wedi gallu ei adnabod yn gynt oherwydd y dechnoleg oedd ar gael iddyn nhw.

Mae wedi’i garcharu am oes, a bydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf chwe blynedd dan glo ar ôl pledio’n euog, a bydd yn rhaid iddo gofrestru fel troseddwr rhyw am weddill ei oes.

Mae’r heddlu wedi diolch i’r ddynes am ei dewrder, ac i dyst oedd wedi ei helpu ar noson yr ymosodiad.