Bydd blaenasgellwr Gleision Caerdydd a Chymru, Ellis Jenkins, yn chwarae ei gêm gystadleuol gyntaf ers dros ddwy flynedd y penwythnos yma.
Bydd yn dechrau i’w ranbarth yn erbyn Connacht ddydd Sadwrn.
Daw hyn wedi iddo sgorio cais yn ystod gêm gyfeillgar y penwythnos diwethaf yn erbyn y Gweilch.
Cyn hynny doedd y gŵr 27 oed, a gafodd dair llawdriniaeth yn ystod ei adferiad, heb chwarae ers anafu ei ben-glin yn ddifrifol yn eiliadau olaf gêm Cymru yn erbyn De Affrica ym mis Tachwedd 2018.
Er iddo gael ei gario oddi ar y cae, cafodd Ellis Jenkins ei enwi’n seren y gêm – ond mae ei yrfa wedi bod ar stop ers hynny gan hefyd fethu’r cyfle i gynrychioli ei wlad yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn 2019.
Mae wedi ennill 11 cap dros Gymru yn ogystal â chael ei ddewis yn gyd-gapten Cymru gyda Cory Hill yn ystod taith i’r Unol Daleithiau yn 2018.
‘Magu hyder a gwên ar ei wyneb’
Mae cyfarwyddwr rygbi dros dro Gleision Caerdydd, Dai Young, yn falch o weld y blaenasgellwr yn ôl yn chware.
“Mae’n wych gweld Ellis yn ôl ac yn adeiladu ar y gêm gyfeillgar wythnos diwethaf, sy’n sicr o fod wedi bod yn gêm fawr iddo ddod drwyddi yn feddyliol,” meddai.
“Fe wnaeth waith gwych, a gwella wrth i’r gêm fynd yn ei blaen. Roedd hefyd yn fwy hyderus wrth i’r gêm fynd yn ei blaen ac roedd hi’n braf ei weld yn cerdded oddi ar y cae gyda gwên ar ei wyneb, sef y peth pwysig.”
Ar hyn o bryd mae Gleision Caerdydd un safle y tu ôl i Connacht, sydd hefyd â gêm mewn llaw, a dim ond un pwynt uwch ben y Scarlets.