Fe sgoriodd asgellwr Cymru, Daniel James, yn ogystal â chreu un arall yng Nghynghrair Ewropa neithiwr (nos Iau, Chwefror 18) wrth i Manchester United guro Real Sociedad o 4-0 yn rownd 32 olaf Cynghrair Ewropa.

Pasiodd Daniel James y bêl i lwybr Bruno Fernandes, cyn i’r gŵr o Bortiwgal ei tharo i gefn y rhwyd i roi Manchester United 2-0 ar y blaen ar ôl 57 o funudau.

Gallai’r Cymro fod wedi sgorio dwy gôl, oni bai bod Mason Greenwodd wedi cael ei ddal yn camsefyll cyn pasio’r bêl iddo.

Ac roedd rhagor o rwystredigaeth i’r Cymro wrth iddo wastraffu cyfle cymharol hawdd ychydig funudau’n ddiweddarach.

Ond fe gafodd y cyn-chwaraewr Abertawe ei gôl yn ystod amser ychwanegol, gan daro’r bêl drwy goesau gôl geidwad Real Sociedad ar ôl dangos ei gyflymder gan garlamu heibio amddiffynwyr y tîm o Sbaen.

Sicrhaodd ei gôl fantais gyfforddus i Manchester United cyn iddyn nhw chwarae’r ail gymal yn Old Trafford yr wythnos nesaf.

“Canlyniad gwych”

Wrth siarad â MUTV (Manchester United TV), dywedodd Daniel James: “Mae’n ganlyniad gwych i ni, yn enwedig oddi cartref, dw i’n meddwl ein bod ni wastad yn dod i mewn i’r gêm yn gwybod ein bod yn wynebu sialens.

“Roedden ni’n gwybod y byddai yna gyfnodau lle’r oedd ganddyn nhw lot o’r bêl, ond roedden ni hefyd yn ymwybodol bod yna lot o le y tu ôl i’w hamddiffyn ac fe lwyddon ni i gymryd mantais o hynny.

“Dw i eisiau gwneud fy ngorau pob tro dw i ar y cae ac roeddwn i’n rhwystredig fy mod i ddim wedi sgorio’r cyfle [cyntaf] hwnnw, ond roedd yn rhaid i mi ymateb a sgorio’r un nesaf. Ac efo lwc, llwyddais i roi’r bêl drwy goesau’r gôl-geidwad.”