Mae pêl-droediwr o dras Asiaidd sy’n chwarae i Glwb Pêl-droed Abertawe wedi galw am waharddiad oes i bobol sy’n anfon negeseuon hiliol ar y cyfryngau cymdeithasol.

Daw sylwadau Yan Dhanda wrth iddo fe ddweud wrth golwg360 ei fod e am ddangos i bobol Asiaidd fod modd iddyn nhw lwyddo yn y byd pêl-droed hefyd – a bod modd goresgyn agweddau rhagfarnllyd.

Fe fu’n siarad â’r wasg ar ôl iddo fe gael ei sarhau’n hiliol ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl gêm gwpan yr Elyrch yn erbyn Manchester City.

Mae’r clybiau a Heddlu’r De wedi beirniadu’r negeseuon, gyda’r heddlu’n dweud pa mor anodd yw hi i fynd i’r afael â’r sefyllfa hon a rhai tebyg ar y cyfryngau cymdeithasol.

Fe wnaeth e riportio’r digwyddiad wrth yr heddlu ar noson y gêm cyn gorfod rhoi datganiad iddyn nhw.

Yn ystod y sesiwn gerbron y wasg heddiw (dydd Iau, Chwefror 18), fe alwodd e ar gwmnïau sy’n berchen ar wefannau cymdeithasol i wneud mwy i fynd i’r afael â hiliaeth ar eu llwyfannau.

Daw hyn ar ôl i’r unigolyn anfonodd negeseuon hiliol ato fe gael ei wahardd dros dro rhag anfon negeseuon – ond mae’n galw am wahardd pobol am oes am anfon y fath negeseuon, ac i gwmnïau wneud mwy i wirio pwy sy’n cael defnyddio eu gwasanaethau.

Magwraeth

Eglurodd Yan Dhanda, sy’n enedigol o Birmingham, fod ei fam-gu a’i dad-cu ar ochr ei dad wedi cael eu geni yn India – yn ardal y Punjab – tra bod ei dad wedi’i eni yn Lloegr, a’i fam o dras Gwyn Prydeinig.

“Dw i’n hynod falch o le dw i’n dod ac o le mae fy nheulu’n dod a fyddwn i ddim yn newid hynny o gwbl,” meddai wrth golwg360.

“Dw i’n un o’r ychydig bobol Asiaidd yn y byd pêl-droed ond mae hynny’n fy nghyffroi ac yn rhoi’r cyfle i fi chwalu’r rhwystrau ac i fod yn arwr i nifer o blant sy’n dod trwodd.

“Dw i’n falch iawn o le dw i’n dod a dyna pam wnaeth derbyn y negeseuon sarhaus fy mrifo gymaint – roedd ceisio fy sarhau i ar sail lle dw i’n dod yn eitha’ trist.”

Gall pobol o dras Asiaidd fod dan bwysau weithiau i ddilyn gyrfa draddodiadol sydd â statws, medd Yan Dhanda, ac mae’n credu bod hynny’n golygu ei fod e wedi gorfod gweithio’n galetach, yn gyntaf i gael dilyn y trywydd hwnnw ac wedyn er mwyn llwyddo yn y byd pêl-droed.

“Fy mreuddwyd yw y gall nifer o bobol o dras Asiaidd ddod drwodd a chwarae’n broffesiynol.”

“Wrth dyfu i fyny, wnes i ddim mynd i mewn i lawer o ystafelloedd newid lle’r oedd yna bobol oedd yn debyg i fi, felly dw i’n credu bod hynny’n anodd ar unwaith oherwydd mae fy nghefndir yn unigryw iawn yn y byd pêl-droed – ychydig iawn [o bobol o dras Asiaidd] sydd, os o gwbl.

“Felly dw i yn teimlo ’mod i wedi gorfod gweithio’n galed iawn i gyrraedd lle’r ydw i heddiw, ond dw i’n falch fy mod i wedi profi, os ydych chi’n gweithio’n galed ac yn gwrthod gadael i bethau eich effeithio chi’n ormodol, y gallwch chi gyrraedd lle’r ydych chi eisiau bod.

“Dw i wedi cyffroi o gael bod lle’r ydw i ac i bobol edrych arna i a dweud, ‘Mae Yan wedi gwneud hyn, gallwn ni ei wneud e hefyd’ – os nad ei wneud e’n well na fi. Dyna sydd wir yn fy nghyffroi i.

“Fy mreuddwyd yw y gall nifer o bobol o dras Asiaidd ddod drwodd a chwarae’n broffesiynol.”

Yan Dhanda
Yan Dhanda (Llun: Clwb Pêl-droed Abertawe)

Yr helynt ar Instagram

Wrth drafod y noson y derbyniodd e’r negeseuon ar Instagram, fe ddywedodd ei fod e “mewn sioc”.

Roedd e wedi bod dan y lach ar y cyfryngau cymdeithasol yn gynharach yn y noson am dacl flêr ar Rodri, chwaraewr Manchester City – ond fe aeth y ffrae i lefel gwbl annerbyniol o fewn dim o dro, gyda’r Elyrch, y rheolwr Steve Cooper a’r capten Matt Grimes i gyd yn beirniadu’r negeseuon hiliol.

“Ro’n i’n grac ac wedi brifo ac wrth i’r noson fynd yn ei blaen, wnes i ddim cysgu ac ro’n i’n meddwl dipyn am y peth,” meddai wrth y wasg.

“Pe bai rhywun wedi dweud wrtha i cyn y gêm y byddwn i’n derbyn negeseuon hiliol, byddwn i fwy na thebyg wedi dweud na fyddai’n effeithio arna i ac y byddwn i’n ei roi i’r naill ochr ond pan welais i nhw ar ôl y gêm, fe wnaeth fy effeithio’n fwy o lawer nag ro’n i wedi’i ddisgwyl.

“A phan es i adref, ro’n i’n dawel a do’n i ddim yn fi fy hun y diwrnod canlynol wrth ymarfer, ro’n i’n dawel ac mewn sioc ac wedi fy ypsetio o hyd.

“Dw i’n dal yn brifo ac wedi ypsetio ond dwi wedi cael digon o amser i siarad â ’nheulu ac wedi cael eu cefnogaeth nhw a phawb yn Abertawe, felly dwi’n teimlo’n well nawr.”

Ymateb Instagram

Mae Instagram a Facebook bellach yn un cwmni ac maen nhw wedi rhoi gwaharddiad dros dro i’r unigolyn dan sylw – ond fyddan nhw ddim yn ei wahardd yn barhaol.

Yn ôl Yan Dhanda, mae eu hymateb ymhell o fod yn ddigonol, ac mae’n galw arnyn nhw i wneud mwy i herio’r fath ymddygiad.

“Ro’n i’n grac yn fwy na dim fod y person yn gallu anfon sarhad hiliol heb gael gwaharddiad o’r cyfryngau cymdeithasol, ac yn hytrach yn cael gwaharddiad rhag anfon negeseuon am gyfnod byr o amser.

“Roedd hynny’n ffiaidd.

“Wnaeth e frifo fy nheulu i wybod fod fawr ddim wedi cael ei wneud am y peth a gall y dyn neu’r ddynes anfonodd y negeseuon fynd yn ôl a dweud beth bynnag maen nhw eisiau ei ddweud ac yn sarhau pwy bynnag maen nhw am eu sarhau eto ar ôl cyfnod byr o amser.

“Dwi’n credu mai dyma lle mae’r broblem fawr o ran cwmnïau’r cyfryngau cymdeithasol, fod unrhyw un yn gallu creu cyfrif, yn gallu bod yn bwy bynnag maen nhw am fod, cuddio y tu ôl i’r sgrîn a dweud beth bynnag maen nhw eisiau ei ddweud wrth bwy bynnag – mae hynny’n wael.

“Dyna pam dw i’n siarad nawr, achos dwi’n credu bod angen i bethau newid.

“Pe bawn i’n gallu eistedd gyda chwmnïau cyfryngau cymdeithasol – Facebook, Instagram, Twitter neu bwy bynnag – dwi’n credu y dylai fod yna elfen o orfod profi pwy ydych chi cyn cofrestru i’r apiau cyfryngau cymdeithasol rydych chi eisiau eu defnyddio.

“Os ydych chi’n cofrestru, rydych chi’n dangos pwy ydych chi go iawn – boed hynny â phasport, cerdyn credyd, rhywbeth o’r fath sy’n profi pwy ydych chi a ble’r ydych chi.

“Dwi’n credu os ydych chi’n dal eisiau anfon negeseuon sarhaus a bod yn hiliol wedyn a gwahaniaethu yn erbyn pobol eraill, gallwch chi gael eich darganfod, eich gwahardd ac un cyfle gewch chi i ddefnyddio’ch hunaniaeth ar yr aps.

“Os ydych chi’n dal eisiau sarhau pobol a gwneud iddyn nhw deimlo’n wael amdanyn nhw eu hunain, yna byddai eich cyfri’n cael ei flocio a chewch chi ddim mynd ’nôl oherwydd fe wnaethoch chi ddefnyddio pwy ydych chi, mae pawb yn gwybod pwy ydych chi a dyna’ch tro chi ar yr apiau wedi mynd.”

Mae’n dweud ymhellach fod ymateb Instagram a Facebook wedi gwaethygu’r sefyllfa.

“Maen nhw wedi arllwys tanwydd ar ben y tân oherwydd maen nhw wedi profi fod pobol yn gallu dweud beth bynnag maen nhw eisiau ei ddweud wrth bwy bynnag.

“Hyd yn oed pe bai eu cyfrif yn cael ei flocio, gallen nhw greu cyfrif arall o dan enw gwahanol ac anfon y sarhad eto.

“Tan bod rhaid profi pwy ydyn nhw cyn cofrestru ar gyfer gwefannau cymdeithasol, dwi ddim yn gweld unrhyw beth yn newid.

“Mae’r person wnaeth fy sarhau wedi cael get-awê ac yn gallu parhau i’w wneud e.

“Pe bawn i’n gorfod eistedd gyda’r person, dwi ddim yn meddwl y byddai’n fawr o sgwrs, byddai’n fwy o lawer na hynny.

“Ond byddwn i’n rhoi gwybod iddyn nhw fod y bobol maen nhw’n eu sarhau – boed yn bêl-droedwyr, yn bobol o’r byd chwaraeon neu’n enwogion eraill – yn fodau dynol hefyd, a sut fydden nhw’n teimlo pe bai eu plant nhw, neu eu mam neu eu tad yn cael eu sarhau?

“Waeth bynnag am eich swydd, mae gan bawb deimladau. Beth ydyn nhw’n ei gael allan o frifo teimladau a digalonni pobol a’u diflasu?

“Ond byddai’n anodd cael sgwrs gydag unrhyw un sy’n meddwl yn y ffordd yma.

“Mae’n ffiaidd a dwi ddim yn deall pam fod pobol yn haeddu ail gyfle.

“Os ydych chi’n mynd allan ar y stryd ac yn saethu rhywun, dydych chi ddim yn cael ail gyfle a ddylai hyn ddim bod yn wahanol. Dylen nhw gael cosb go iawn.

“Os ydyn nhw’n ei wneud e eto, dydy’r cwmnïau cyfryngau cymdeithasol ddim wedi fy argyhoeddi y byddan nhw’n gwneud yn well y tro nesaf nag y maen nhw wedi’i wneud yn fy achos i.”

Hiliaeth a ‘chymryd y ben-glin’

Yan Dhanda
Yan Dhanda a’i reolwr Steve Cooper (Llun: Clwb Pêl-droed Abertawe)

Fel chwaraewr o dras Asiaidd, mae’n dweud ei fod e wedi cael ei sarhau’n hiliol pan oedd e’n ifanc, ond nad yw’n effeithio gymaint ar blant ag ydyw ar oedolion.

Ond dyma’r tro cyntaf iddo gael ei sarhau’n hiliol fel pêl-droediwr proffesiynol ac fe ddaw wrth i chwaraewyr barhau i ‘gymryd y ben-glin’ – gweithred sy’n dangos undod yn erbyn hiliaeth ond sydd wedi gweld cynnydd yn yr achosion o hiliaeth yn y gêm dros y misoedd diwethaf.

“Dwi’n rhywun sy’n casáu hiliaeth beth bynnag a hyd yn oed cyn i hyn ddigwydd i fi, ro’n i’n rhywun oedd yn angerddol iawn am beidio â bod yn hiliol a pharchu pobol lle bynnag maen nhw’n dod.

“I fi, mae cymryd y ben-glin yn arwydd o barch a bod pobol yn dangos bod rhaid i bethau newid a’n bod ni’n sefyll gyda’n gilydd.

“Mae’n neges dda ac mae’r ffaith fod pobol o gefndiroedd gwahanol yn cymryd y ben-glin yn dangos ein bod ni’n unedig ac yn parchu’n gilydd.

“Ond p’un a yw pobol ar y cyfryngau cymdeithasol yn ei weld felly ac yn cymryd y peth allan o’i gyd-destun sy’n gwestiwn arall.”

Effaith ar y teulu

Mae Yan Dhanda yn dweud bod yr helynt wedi cael effaith sylweddol ar ei deulu hefyd.

“Roedden nhw wedi’u hypsetio hefyd – fy mam, fy nhad, fy mrawd a fy chwaer,” meddai.

“Mae gan fy mam groen gwyn ond mae’n dal yn fam i fi – mae hi’n teimlo popeth dwi’n ei deimlo, mae fy mrawd a chwaer yn teimlo’r un fath, a fy nhad.

“Felly dwi’n credu ei fod e wedi cael effaith arnyn nhw i gyd hefyd, nid dim ond wrth weld eu mab wedi’i ypsetio, ond fod pobol yn fy sarhau i oherwydd lle mae’r teulu’n dod a’u hethnigrwydd.

“Mae fy mam a ’nhad yn grac ac yn teimlo’r un fath â fi, felly dwi’n credu mai’r prif reswm pam fy mod i’n teimlo’n well yw fy mod i wedi cael eu cefnogaeth nhw a’u cariad, a’u bod nhw’n teimlo sut dwi’n teimlo oherwydd ychydig iawn o bobol yn y byd pêl-droed sydd yn deall oherwydd bod fy ethnigrwydd mor unigryw yn y gêm.”

Mae’n dweud ei bod yn bosib na chawn ni ateb i’r sefyllfa hyd nes bod mwy o bobol o leiafrifoedd ethnig mewn swyddi allweddol yn y byd pêl-droed – o’r cae hyfforddi i goridorau grym y cymdeithasau pêl-droed.

Ond am y tro, mae’n fwy o bryder nad yw’r cwmnïau cymdeithasol wedi ymateb mewn modd boddhaol i’r sefyllfa a bod y frwydr yn erbyn hiliaeth mewn chwaraeon – sydd wedi symud fwyfwy i’r cyfryngau cymdeithasol yn absenoldeb torfeydd o gemau yn ystod y cyfnod clo – ymhell o fod wedi’i hennill.

Logo Abertawe

Heddlu yn ymchwilio i neges hiliol tuag at chwaraewr Abertawe

Yn dilyn colled ei dîm yn erbyn Manchester City derbyniodd, Yan Dhanda, negeseuon hiliol ar wefannau cymdeithasol
Steve Cooper

“Dylai cymryd y ben-glin fod yr un mor bwerus ag erioed”

Alun Rhys Chivers

Steve Cooper, rheolwr yr Elyrch, yn ymateb i helynt hiliaeth Yan Dhanda