Mae hyfforddwr ymosod Cymru, Stephen Jones, wedi rhoi diweddariad ar anafiadau yng ngharfan Cymru.

Cyn y fuddugoliaeth yn erbyn yr Alban y penwythnos diwethaf roedd wyth o chwaraewyr o garfan wreiddiol Cymru wedi anafu ac un wedi ei wahardd.

Mae Jonathan Davies, Josh Navidi, Johnny Williams a George North yn ôl yn hyfforddi cyn wynebu Lloegr penwythnos nesaf.

“Mae’r garfan yn eitha’ iach ar y foment,” meddai Stephen Jones

“Mae hynny’n hollbwysig i ni, mae ’na gwpl o bobol fel Leigh Halfpenny a Hallam Amos yn mynd drwy’r protocolau cyn bydd modd iddyn nhw ddod nôl a chael ymarfer gyda ni, ond mae pawb arall yn iach.”

Un na fydd ar gael bydd y mewnwr Tomos Williams a adawodd y cae yn ystod buddugoliaeth Cymru yn erbyn Iwerddon ar benwythnos agoriadol y bencampwriaeth – mae dal i dderbyn triniaeth ar ôl anafu llinyn y gar.

‘Ni moyn cystadleuaeth a phen tost’

Mae Hyfforddwr ymosod Cymru wedi croesawu’r boen meddwl y mae’r olwyr wedi ei roi i’r tîm hyfforddi.

Bydd George North, Jonathan Davies, Willis Halaholo, Johnny Williams, Nick Tompkins ac Owen Watkin yn cystadlu am lefydd ynghanol cae yn erbyn lloegr.

Gallai George North ennill ei ganfed cap i Gymru.

“Dyna beth ni moyn, ni moyn cystadleuaeth a phen tost ynglŷn a chystadleuaeth a dewis – a phob clod i’r chwaraewyr am pa mor galed maen nhw’n gweithio i ddatblygu eu gêm nhw.

“Gwnaeth Nick [Tompkins] ac Owen [Watkin] waith gwych dros y penwythnos a gwnaeth Willis [Halaholo] yn wych hefyd oddi ar y fainc.

“Gyda bois fel hyn yn dod ymlaen, mae digon i ddewis ohono.”

‘Josh Adams â phwynt i brofi’

Un arall fydd ar gael i wynebu Lloegr yw’r asgellwr, Josh Adams, a gafodd ei wahardd am dorri rheolau Covid.

“Ma Josh yn grêt, yn broffesiynol iawn, mae wedi gweithio’n galed ac mae’n bleser i weithio gyda,” meddai Stephen Jones.

“Mae eisiau datblygu ei gêm a gwella a falle bod ’da fe bwynt i brofi, ond be’ sy’n dda i’w ei agwedd o fewn y garfan.”

Ar ôl dau benwythnos o rygbi mae Cymru yn ail yn y tabl y tu ôl i Ffrainc.

Bydd Cymru yn wynebu Lloegr yn Stadiwm Principality dydd Sadwrn, Chwefror 27.

Lle i wella o hyd cyn wynebu Lloegr, medd Wayne Pivac

Wedi dwy fuddugoliaeth mewn chwe diwrnod bydd tîm rygbi Cymru yn troi eu sylw at y Goron Drifflyg
Louis Rees-Zammit

Stephen Jones yn cydnabod fod hi’n rhwystredig gorfod rhyddhau chwaraewyr i Glybiau Lloegr

“Mae’n anodd pan mae rhaid i chwaraewyr fynd yn ôl i Loegr i chwarae oherwydd rydyn ni’n colli mynediad iddyn nhw er mwyn hyfforddi.”