Mae hyfforddwr ymosod Cymru, Stephen Jones, yn cydnabod ei bod hi’n rhwystredig gorfod rhyddhau chwaraewyr i Glybiau Lloegr yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Bydd rhaid i chwech o chwaraewyr rygbi rhyngwladol Cymru sydd yn chwarae i glybiau yn Lloegr adael swigen y tîm cenedlaethol y penwythnos hwn.

Mae wythnos o seibiant cyn y bydd Cymru yn wynebu Lloegr yn nhrydedd rownd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, a golyga hyn y bydd Tomas Francis, Will Rowlands, Taulupe Faletau, Dan Biggar, Callum Sheedy a Louis Rees-Zammit ar gael i chwarae dros y ffin.

Fodd bynnag, fydd dim rhaid i chwaraewyr sy’n rhan o garfan Lloegr wneud yr un peth.

Yn yr un modd, fydd dim rhaid i Gymru ryddhau chwaraewyr sydd yn chwarae i ranbarthau yng Nghymru – ond mae Undeb Rygbi Cymru wedi penderfynu rhyddhau Lloyd Williams a Rhys Carré i’r Gleision y penwythnos hwn.

Rees-Zammit v Faletau

Mae’r asgellwr Louis Rees-Zammit a’r chwaraewr rheng ôl Taulupe Faletau wedi eu dewis i chwarae nos Wener.

Bydd y ddau yn wynebu ei gilydd pan fydd Caerloyw yn teithio i Gaerfaddon yn Uwchgynghrair Lloegr.

“Mae’n anodd pan mae rhaid i chwaraewyr fynd yn ôl i Loegr i chwarae oherwydd rydyn ni’n colli mynediad iddyn nhw er mwyn hyfforddi, mae mor syml â hynny,” meddai Stephen Jones.

“Y peth positif yw bod [Rees-Zammit a Faletau] yn chwarae ddydd Gwener felly bydd y chwaraewyr hynny’n dod dros unrhyw anafiadau bach ac yn cael amser i wella cyn ailymuno â ni.”

Mae’r asgellwr ifanc Louis Rees-Zammit wedi serennu yn y bencampwriaeth eleni gan sgorio tri chais a chael ei enwi’n seren y gêm ym muddigoliaeth Cymru yn erbyn yr Alban.

Rees-Zammit v Johnny May

Mae’n cyfaddef fod y posibilrwydd o chwarae yn erbyn asgellwr Lloegr, Johnny May, sydd hefyd yn chwarae i Gaerloyw, yn ei gyffroi.

“Rwy’n hyfforddi gyda Johnny bob dydd ac yn dysgu llawer ganddo,” meddai.

“Mae’n mynd i fod yn ddiddorol chwarae yn ei erbyn. Fe wnes i yn yr hydref, ond roedd yn chwarae ar yr asgell arall bryd hynny.

“Mae ychydig yn wahanol y tro hwn. Dylai fod yn dipyn o sioe. Dw i’n siŵr y bydd Johnny yn gyffrous i chwarae yn fy erbyn i hefyd.

“Yn amlwg, mae’n gêm enfawr. Bydd y bois yn gyffrous iawn, a byddwn yn rhoi bob dim i mewn i’r perfformiad.”

Fel rheol, bydd chwaraewyr yn dychwelyd i’w clybiau bob blwyddyn, ond roedd Wayne Pivac, prif hyfforddwr Cymru, yn gobeithio na fyddai rhaid eleni er mwyn gwarchod swigen y tîm cenedlaethol a lleihau ymlediad y coronafeirws.

Yr unig garfan sydd wedi eu heffeithio gan achosion Covid-19 hyd yma yw Ffrainc – mae tri aelod o dîm hyfforddi’r Ffrancwyr, gan gynnwys y Prif Hyfforddwr Fabien Galthié, yn hunanynysu.

Bydd Cymru yn wynebu Lloegr yn Stadiwm Principality dydd Sadwrn, Chwefror 27.

Clybiau Lloegr yn mynnu bod chwaraewyr Cymru yn dychwelyd yn ystod y Chwe Gwlad

Yn wahanol i chwaraewyr Cymru sy’n chwarae yn Lloegr, fydd dim rhaid i chwaraewyr yng ngharfan Lloegr ddychwelyd i’w clybiau yn ystod y bencampwriaeth

Covid-19 yn parhau i fod yn fygythiad i’r Chwe Gwlad, yn ôl Wayne Pivac

“Rydym yn ymwybodol iawn o’r bygythiad mae’r coronafeirws yn ei roi ar y gystadleuaeth, yn enwedig oherwydd yr amrywiolyn newydd.”