Fe sgoriodd Gareth Bale gôl a chreu un arall yn ninas Budapest yn Hwngari neithiwr, wrth i Spurs guro Wolfsberger o Awstria o 4-1 yn rownd 32 olaf Cynghrair Ewropa.
Dyma oedd ei berfformiad gorau ers iddo ddychwelyd i Spurs ar fenthyg o Real Madrid, wrth iddo greu’r gôl gyntaf i’r ymosodwr Son Heung-min, ac yna sgorio’r ail drwy fynd heibio amddiffynnwr a chrymanu’r bêl gyda’i droed chwith i gornel y rhwyd.
Fe gafodd y Cymro gyfle prin i gychwyn gêm i Spurs wedi i Harry Kane benderfynu peidio chwarae, oherwydd ofnau am gael ei anafu.
Prin fu’r cyfleon i’r Cymro chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr hyd yma’r tymor hwn, ond bydd cefnogwyr Cymru am ei weld yn cael cyfle yng ngêm Spurs oddi cartref ddydd Sul yn West Ham.