Gallai Jonny Williams chwarae ei gêm gyntaf i Gaerdydd yn erbyn Preston ddydd Sadwrn (Chwefror 20).

Cafodd y chwaraewr canol cae ei anafu wrth hyfforddi ychydig ddyddiau ar ôl ymuno â’r clwb o Charlton fis Ionawr.

Mae Sheyi Ojo, sydd ar fenthyg o Lerpwl, hefyd yn holliach, tra bod Joe Ralls a Junior Hoilett dal ddim yn barod i ddychwelyd.

Bydd Kieffer Moore a Josh Murphy yn cael eu hasesu ar ôl dioddef anafiadau ganol yr wythnos yn erbyn Luton, pan wnaeth yr Adar Gleision sicrhau eu pedwaredd buddugoliaeth yn olynol dan law’r rheolwr newydd Mick McCarthy.

Bydd y gic gyntaf am dri bnawn Sadwrn (Chwefror 20).