Dim ond Caerdydd o blith timau pêl-droed Cymru yng nghynghreiriau Lloegr enillodd heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 20), wrth iddyn nhw guro Preston o 4-0 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Roedd colled drom i Abertawe o 4-1 yn Huddersfield, tra bod Wrecsam wedi colli o 3-0 oddi cartref yn Aldershot.

Bydd Casnewydd yn herio Forest Green yn Rodney Parade yfory (dydd Sul, Chwefror 21).

Caerdydd 4-0 Preston

Mae’r fuddugoliaeth i dîm Caerdydd Mick McCarthy yn mynd â nhw o fewn triphwynt i safleoedd y gemau ail gyfle wrth iddyn nhw ymestyn eu rhediad di-guro gyda’r rheolwr newydd wrth y llyw.

Sgoriodd Kieffer Moore o’r smotyn yn gynnar yn y gêm cyn i Josh Murphy, Marlon Pack a’r eilydd Mark Harris rwydo yn yr ail hanner i sicrhau’r bedwaredd fuddugoliaeth o’r bron.

Ac roedd perfformiad Dillon Phillips yn y gôl yn un campus hefyd, wrth iddo fe arbed dwy gic o’r smotyn.

Mae’n golygu bod Preston bellach wedi colli pedair allan o bump o gemau.

Huddersfield 4-1 Abertawe

Fe wnaeth yr Elyrch fethu â manteisio ar y ffaith fod Brentford wedi colli cyn eu cic gyntaf yn Huddersfield.

Rhwydodd Fraizer Campbell ar ôl 12 munud ond roedd Lewis O’Brien yn camsefyll.

Ond fe wnaeth e rwydo’n ddilys ddeng munud yn ddiweddarach wrth i’r cefnwr Pipa ei ddarganfod e â chroesiad i mewn i’r cwrt cosbi.

Daeth sawl cyfle i’r naill dîm a’r llall cyn i’r Elyrch bwyso ac ennill cic rydd ar ymyl y cwrt cosbi, gyda Conor Hourihane yn sgorio’i bedwaredd gôl mewn pum gêm.

Ond daeth tair gôl i Huddersfield yn gynnar yn yr ail hanner i gau pen y mwdwl ar brynhawn siomedig i’r Elyrch.

Lewis O’Brien rwydodd gyntaf wrth i’w ergyd daro amddiffynnwr ar ei ffordd i’r rhwyd, ac fe wnaeth Aaron Rowe ddarganfod Duane Holmes i’w gwneud hi’n 3-1.

Daeth y bedwaredd ar ôl 55 munud pan darodd Holmes chwip o ergyd i gornel y rhwyd i hawlio’i ail gôl.

Ond aeth pethau o ddrwg i waeth i dîm Steve Cooper pan gafodd yr eilydd Jordan Morris anaf ddifrifol i’w goes, a bu’n rhaid iddyn nhw chwarae gweddill y gêm gyda deg dyn ar ôl dod â’u holl eilyddion i’r cae.

Aldershot 3-0 Wrecsam 

Sgoriodd Liam Nouble ddwy gôl i Aldershot wrth i Wrecsam ddychwelyd i’r gogledd yn waglaw wrth golli o 3-0.

Mae’r canlyniad yn mynd ag Aldershot gam yn nes at safleoedd y gemau ail gyfle.

Cafodd Dior Angus a Kwame Thomas gyfleoedd cynnar cyn i Nouble roi’r Saeson ar y blaen, gyda Christian Dibble fethu â chlirio cic rydd Alfy Whittingham.

Daeth sawl arbediad campus gan Dibble cyn yr egwyl, ond dyblodd Aldershot eu mantais yn gynnar yn yr ail hanner wrth i Nouble sgorio eto.

Fe wnaeth Nouble greu’r drydedd gôl i Jermaine Anderson cyn cael cyfle am hatric a gafodd ei arbed unwaith eto gan Dibble.