Er i’r Gleision golli o 32-17 wrth i Connacht ennill am y tro cyntaf ers tair gêm yn y PRO14 ddoe, roedd y Cyfarwyddwr Rygbi Dai Young yn falch o weld y capten Ellis Jenkins yn dychwelyd i’r cae ar gyfer ei gêm gystadleuol gyntaf ers 27 mis.

Cipiodd y Gwyddelod bwynt bonws wrth i Jenkins chwarae am y tro cyntaf ar ôl gwella o anaf i’w ben-glin.

Ond mae Young yn mynnu mai pwyll piau hi o ran dychwelyd yn rheolaidd.

“Dw i’n falch iawn drosto fe ac fe chwaraeodd e’n dda iawn,” meddai.

“Fe gafodd e ychydig bach o boenau tua’r 65 munud ond does gyda fi ddim amheuaeth y gallai e fod wedi chwarae’r 80 munud cyfan pe baen ni wedi ei adael e allan yno.

“Ond byddai’n well gyda fi fod yn ofalus a’i dynnu fe oddi ar y cae.

“Felly rhaid i ni warchod Ellis ond dw i’n falch iawn o’i gyfraniad e.”

Manylion y gêm

Sgoriodd Rhys Carré, prop Cymru, ei gais cyntaf i’r rhanbarth cyn i gyfraniad Alex Wootton wrth groesi’r llinell ddwywaith roi’r ymwelwyr ar y blaen o 20-10 erbyn yr egwyl.

Sgoriodd y prop Corey Domachowski ar ôl 63 munud ond seliodd Connacht y fuddugoliaeth gyda cheisiau gan y capten Jarrad Butler a’r eilydd Abraham Papali’i.

Mae’r Gleision yn bedwerydd yn y tabl.