Y Sais Ronnie O’Sullivan a Jordan Brown o Ogledd Iwerddon fydd yn cystadlu am dlws Pencampwriaeth Snwcer Agored Cymru yng ngwesty’r Celtic Manor yng Nghasnewydd heddiw (dydd Sul, Chwefror 21).

Cyrhaeddodd O’Sullivan y rownd derfynol ar ôl curo’r Cymro Mark Williams, oedd wedi dweud bod ei wrthwynebydd wedi ei guro ym mhob ffordd yn rownd y pedwar olaf, o chwe ffrâm i un.

Yr un oedd y sgôr yn y gêm gyn-derfynol arall rhwng Ronnie O’Sullivan a’r Albanwr Stephen Maguire.

 

Sgoriodd Williams 73 yn y ffrâm gyntaf cyn i O’Sullivan daro’n ôl gyda 102 yn yr ail ffrâm.

Ond fe aeth y Sais yn ei flaen i sgorio 77, 54 a 69 ar ei ffordd i’w chweched ffeinal yng Nghymru, ac yntau wedi ennill y tlws bedair gwaith.