Mae’r Mirror yn adrodd bod Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn un o dri enw ar restr fer Crystal Palace.

Mae adroddiadau y gallai Roy Hodgson, rheolwr presennol Crystal Palace, gamu o’r neilltu ar ddiwedd y tymor.

Mae Abertawe’n bedwerydd yn y Bencampwriaeth ar hyn o bryd, ac yn gwthio am le ymhlith y safleoedd dyrchafiad awtomatig ar ôl cyrraedd y gemau ail gyfle y tymor diwethaf.

Ond mae’n debyg y byddai’n rhaid i Palace dalu iawndal sylweddol am y Cymro ac am Sean Dyche, rheolwr Burnley, tra bod Eddie Howe yn ddiwaith ers gadael Bournemouth.

Mae lle i gredu na fydd penderfyniad yn cael ei wneud gan Crystal Palace tan ddiwedd y tymor, pan fydd Abertawe’n gwybod a fyddan nhw wedi cyrraedd yr Uwch Gynghrair – ffactor sylweddol, fwy na thebyg, ym mhenderfyniad Steve Cooper pe bai’n cael cynnig y swydd.

Mae e wedi gwrthod ymateb i’r adroddiadau hyd yma, gan ddweud ei fod e’n canolbwyntio ar yr Elyrch yn unig.