Sgoriodd Jamille Matt un gôl a chreu’r llall wrth i Forest Green drechu ei hen glwb Casnewydd o 2-0 yn Rodney Parade yn yr Ail Adran.

Mae’r canlyniad yn mynd â Forest Green o fewn pwynt i’r brig.

Aethon nhw ar y blaen wrth i Matt basio i Josh Davison ddwy funud cyn yr egwyl – ail gôl Davison mewn dwy gêm ar ôl symud ar fenthyg o Charlton fis diwethaf.

Ar ôl awr, cafodd Matt ei lorio yn y cwrt cosbi gan y golwr Nick Townsend, a’r ymosodwr yn llwyddo o’r smotyn – hon oedd ei unfed gôl ar ddeg y tymor hwn.

Mae Casnewydd yn aros yn seithfed yn y tabl, ar ôl ennill dim ond un gêm mewn 12 yn y gynghrair a chasglu dim ond wyth pwynt allan o 36.