Cymry Caerdydd yn tanio o hyd, Bale a James yn serennu yn Ewrop ac Adam Davies yn dychwelyd i garfan Stoke; roedd hi’n wythnos dda i bêl droedwyr Cymru ar y cyfan.

Uwch Gynghrair Lloegr

Ar ôl creu argraff oddi ar y fainc yn erbyn Arsenal y penwythnos diwethaf, roedd ymddangosiad prin o’r dechrau i Tyler Roberts nos Wener wrth i Leeds deithio i wynebu Wolves. Cafodd y Cymro gêm go lew er i’w dîm golli o gôl i ddim.

Colli o’r un sgôr a wnaeth Ethan Ampadu gyda Sheffield United nos Sadwrn wrth iddynt hwy deithio i Craven Cottage i herio Fulham mewn gêm bwysig tua gwaelod y tabl. Yn wir, roedd Ampadu ar fai braidd ar gyfer unig gôl y gêm, yn gadael i’w gyn gyd-chwaraewr gyda Leipzig, Ademola Lookman, heibio iddo yn rhy rhwydd o lawer.

Eilyddion heb eu defnyddio a oedd Hal Robson-Kanu yng ngêm ddi sgôr West Brom yn Burnley a Neco Williams yng ngholled Lerpwl yng ngêm darbi Glannau Merswy.

Ar ôl creu un a sgorio un yn erbyn Wofsberger yng Nghynghrair Europa ganol wythnos, roedd ambell un yn disgwyl i Gareth Bale ddechrau gêm Tottenham yn erbyn West Ham yn y gynghrair ddydd Sul. Ar y fainc y dechreuodd y Cymro serch hynny ond roedd Spurs yn well tîm wedi iddo ddod i’r cae fel eilydd ar gyfer yr ail hanner.

Aeth Tottenham ddwy gôl ar ei hôl hi yn gynnar wedi’r egwyl cyn i Lucas Moura dynnu un yn ôl o gic gornel Bale. A bu ond y dim i Gareth gipio pwynt i’w dîm wedi hynny, yn taro’r trawst gydag ergyd dda o ochr y cwrt cosbi. Dechreuodd Ben Davies y gêm Ewropeaidd hefyd ond gwylio’r gêm gyfan o’r fainc a wnaeth y ncefwr chwith yn erbyn yr Hammers.

Eilyddion heb eu defnyddio a oedd Neil Taylor a Danny Ward yng ngêm Aston Villa a Chaerlŷr.

Fel Bale, fe fanteisiodd Dan James ar gyfle prin wrth ddechrau yng ngêm Cynghrair Europa Man U yn erbyn Real Sociedad nos Iau. Creodd DJ y gôl agoriadol i Bruno Fernandes cyn rhwydo ei hun yn hwyr yn y gêm i selio’r fuddugoliaeth o bedair gôl i ddim. Cafodd ei wobrwyo am y perfformiad hwnnw gydag ymddangosiad prin o’r dechrau yn y gynghrair wrth i United groesawu Newcastle i Old Trafford nos Sul.

Talodd penderfyniad Ole Gunnar Solskjaer ar ei ganfed wrth i asgellwr Cymru sgorio’r ail gôl holl bwysig ym muddugoliaeth ei dîm o dair i un.

Daniel James

*

Y Bencampwriaeth

Mae rhediad gwych Caerdydd o dan ofal Mick McCarthy yn parhau yn dilyn buddugoliaeth swmpus yn erbyn Preston ddydd Sadwrn. Daw honno ychydig ddyddiau yn dilyn buddugoliaeth yn Luton ganol wythnos ac mae’r Adar Gleision bellach o fewn tri phwynt i’r safleoedd ail gyfle ar ôl ennill pum gêm yn olynol.

Kieffer Moore a agorodd y sgorio yn erbyn Preston gyda chic o’r smotyn gynnar a ddeilliodd o dafliad hir peryglus Will Vaulks. Sgoriodd Vaulks ei hun yn erbyn Luton, fel y gwnaeth Harry Wilson ac roedd y gŵr o Gorwen yng nghanol pethau eto ar y penwythnos, yn creu ail gôl ei dîm i Josh Murphy yn gynnar yn yr ail hanner.

Ychwanegodd Caerdydd drydedd wedi hynny cyn i Mark Harris gwblhau’r sgorio ychydig eiliadau ar ôl dod i’r cae fel eilydd. Roedd Jonny Williams ar y fainc am y tro cyntaf ers ymuno â’r clwb hefyd ond bydd yn rhaid iddo aros am ei ymddangosiad cyntaf.

Diwrnod i’w anghofio i’r Cymry yn nhîm Preston felly; roedd Andrew Hughes yn rhan o’r amddiffyn a ildiodd bedair gwaith ac fe fethodd Ched Evans gic o’r smotyn a fyddai wedi unioni’r sgôr yn yr hanner cyntaf.

Nid oedd hi’n benwythnos da iawn i Abertawe. Ildiodd yr Elyrch dir ar y brig wrth golli o bedair gôl i un yn Huddersfield. Dechreuodd Connor Roberts y gêm a daeth Ben Cabango i’r cae fel eilydd hanner amser.

Cafodd Stoke fuddugoliaeth dda ddydd Sadwrn, yn trechu Luton o dair gôl i ddim. Dechreuodd Rhys Norrington-Davies fel cefnwr chwith ac fe greodd Joe Allen ail gôl ei dîm i Nick Powell. Cafodd Sam Vokes ddeg munud oddi ar y fainc ac roedd hi’n braf gweld Adam Davies yn dychwelyd i’r fainc honno yn dilyn misoedd allan gydag anaf.

Nid oedd Tom Lockyer yng ngharfan Luton ar ôl gadael y cae gydag anaf yn erbyn Caerdydd ganol wythnos, ond roedd ymddangosiad prin ymysg yr eilyddion i Joe Morrell.

Nid yw ‘David Brooks’ a ‘ffêr’ yn eiriau y mae cefnogwyr Cymru yn hoffi eu clywed yn yr un frawddeg ond datgelodd rheolwr Bornemouth, Jonathan Woodgate, yn dilyn colled ei dîm yn erbyn QPR i Brooks fethu’r gêm oherwydd anaf i’w ffêr. Y newyddion da yw mai’r ochr wahanol i’r un a berodd broblemau mawr iddo’r tymor diwethaf sydd yn ei boeni’r tro hwn. Roedd Chris Mepham yn y tîm a gollodd o ddwy gôl i un.

Chwaraeodd Tom Bradshaw hanner awr o gêm ddi sgôr Millwall yn erbyn Wycombe ond eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Alex Samuel i’r gwrthwynebwyr.

*

Cynghreiriau is

Arhosodd Lincoln ar frig yr Adran Gyntaf gyda buddugoliaeth yn Wigan ddydd Sadwrn. Chwaraeodd Brennan Johnson mewn rôl ddyfnach wrth i’w dîm ennill o ddwy gôl i un.

Doncaster yn erbyn Hull a oedd un o’r gemau eraill pwysig tua brig y tabl a gorffen yn gyfartal, tair gôl yr un, a wnaeth hon gyda Matthew Smith yn chwarae rhan helaeth o’r gêm i Donny.

Cadwodd Chris Maxwell lechen lân wrth i Blackpool guro Portsmouth o gôl i ddim, gydag Ellis Harrison yn chwarae’r chwarter awr olaf i’r gwrthwynebwyr.

Gôl yr un a phwynt yr un a oedd hi wrth i Fleetwood groesawu Charlton. Chwaraeodd Chris Gunter y gêm gyfan i’r ymwelwyr a daeth Wes Burns i’r cael fel eilydd i’r tîm cartref.

Chwaraeodd James Wilson yn yr amddiffyn wrth i Ipswich gadw llechen lân mewn gêm ddi sgôr yn erbyn Rhydychen. Roedd David Cornell ar y fainc ond nid oedd Emyr Huws na Gwion Edwards yn y garfan.

Mae Luke Jephcott wedi mynd am dair gêm heb sgorio yn dilyn gêm ddi sgôr Plymouth yn Rochdale ac fe chwaraeodd Cian Harries i Bristol Rovers wrth iddynt hwy golli yn Gillingham.

Cafodd gêm Casnewydd yn erbyn Forest Green yn yr Ail Adran ei symud o ddydd Sadwrn i ddydd Sul oherwydd y tywydd. Dechreuodd Liam Sheppard a Josh Sheehan i’r Alltudion a daeth Aaron Lewis oddi ar y fainc wrth iddynt golli o ddwy gôl i ddim; llechen lân i gyn gôl-geidwad dan 19 Cymru, Lewis Thomas, rhwng y pyst i Rovers.

Bolton yw un o’r timau arall o ddiddordeb Cymreig yn yr Ail Adran y dyddiau hyn. Sgoriodd Declan John, sydd byth yn sgorio, ei ail gôl mewn dwy gêm wrth rwydo yn erbyn Mansfield ganol wythnos!

Ac roedd y cefnwr sydd ar fenthyg o Abertawe yn rhan o amddiffyn gyda Gethin Jones a gadwodd lechen lân yn Southend ddydd Sadwrn. Roedd Jordan Williams hefyd yn y tîm ar ôl apelio’n llwyddiannus yn erbyn gwaharddiad am gerdyn coch diweddar ac fe ddaeth Lloyd Isgrove oddi ar y fainc i olygu fod pedwar Cymro ar y cae wrth i Bolton ennill y gêm o gôl i ddim.

*

Yr Alban a thu hwnt

Roedd hi’n ddiwrnod da i’r Cymry yng nghynghreiriau’r Alban. Chwaraeodd Ash Taylor ym muddugoliaeth Aberdeen yn erbyn Kilmarnock yn yr Uwch Gynghrair ac felly hefyd Christian Doidge wrth i Hibs guro Hamilton. Yn y Bencampwriaeth, chwaraeodd Owain Fôn Williams wrth i Dunfermline drechu Alloa.

Yn ail adran yr Almaen, mae rhediad da diweddar St. Pauli yn parhau. Chwaraeodd James Lawrence wrth iddynt guro Darmstadt o dair gôl i ddwy i godi i ganol tabl y 2. Bundesliga ac yn ddigon pell o safleoedd y gwymp.

Ymunodd Dylan Levitt â NK Istra 1961 ar fenthyg o Man U tan ddiwedd y tymor yr wythnos hon ond nid oedd y Cymro yn y garfan wrth i’r tîm sydd ar waelod uwch gynghrair Croatia golli gartref yn erbyn Varazdin ddydd Sadwrn. Nid oedd gan Dinamo Zagreb Robbie Burton gêm y penwythnos hwn.

Un arall sydd wedi symud ar fenthyg i ddwyrain Ewrop yn ddiweddar yw chwaraewr Barnsley, Isaac Chrsistie-Davies. Chwaraeodd ei gêm gyntaf i Dunajska Streda yn Super Liga Slofacia y penwythnos diwethaf ac roedd yn y tîm eto ddydd Sul wrth iddynt gael gêm gyfartal yn erbyn MSK Zilina.

Chwaraeodd Aaron Ramsey chwarter awr olaf colled Juventus yn erbyn Porto yng Nghynghrair y Pencampwyr ganol wythnos ond nid yw’r Hen Wreigan yn chwarae tan nos Lun yn Serie A. Nos Lun y mae gêm Leuven ym mhrif adran Gwlad Belg hefyd felly bydd yn rhaid aros i weld os caiff Andy King gêm.

 

Gwilym Dwyfor