Jordan Brown o sir Antrim yng Ngogledd Iwerddon yw enillydd Pencampwriaeth Snwcer Agored Cymru 2021, ar ôl iddo fe guro Ronnie O’Sullivan o 9-8 yng ngwesty’r Celtic Manor yng Nghasnewydd.

Mae’n rhif 81 yn y byd ac roedd y bwcis yn cynnig tebygolrwydd o 750-1 iddo ennill y gystadleuaeth.

Ond fe yw’r detholyn isaf i ennill teitl detholion ers dros chwarter canrif, ac fe wnaeth e groesi’r llinell gyda rhediad o 74 yn y ffrâm dyngedfennol.

Daw ei fuddugoliaeth yn fuan ar ôl iddo fe gyrraedd wyth olaf Meistri’r Almaen fis diwethaf.

Aeth pedair gêm yn olynol i’r ffrâm dyngedfennol, ac fe gurodd e Mark Selby a Stephen Maguire ar ei ffordd i’r ffeinal.

Manylion y gêm

Aeth e ar y blaen o 4-1 cyn gorffen y sesiwn gyntaf gyda blaenoriaeth o 5-3.

Ond tarodd O’Sullivan yn ôl gyda rhediadau o 68 a 61 ac roedd e ar y blaen o fewn dim o dro o 6-5.

Ond enillodd Brown y ddwy ffram ganlynol i’w gwneud hi’n 7-6 ac er i O’Sullivan unioni’r sgôr eto, roedd ei rwystredigaeth yn amlwg ac fe wnaeth Brown fanteisio ar y sefyllfa gyda rhediad o 56 i fynd o fewn un ffrâm i godi’r tlws.

Roedd y sgôr yn gyfartal unwaith eto wrth i O’Sullivan ymateb gyda rhediad o 119 ond arhosodd Brown yn gadarn i ennill y ffrâm hollbwysig, £70,000 a Thlws Ray Reardon.

‘Anghredadwy’

“Mae’n teimlo’n anghredadwy a fydda i ddim yn ei amgyffred am sbel,” meddai Jordan Brown.

“Dw i bob amser wedi credu ynof fi fy hun ond do’n i jyst byth yn credu y byddai hyn yn digwydd.

“Ro’n i’n gwybod fod fy ngêm yn ddigon da oherwydd pryd bynnag rydych chi i mewn ac yn sgorio ac yn manteisio ar eich cyfleoedd, does dim ots pwy sydd yn y gadair arall.

“Pe bawn i wedi chwarae [yn erbyn] Ronnie yn hytrach na’r bwrdd, dw i’n meddwl y byddwn i wedi cael fy nghuro heddiw – mae e mor dda fel ei fod e’n gallu eich bwlio a’ch chwalu chi, felly roedd rhaid i fi ddal ati a gwneud yr hyn dw i’n ei wneud.”

Llongyfarch yr enillydd ond cwyno am yr amserlen

Ar ddiwedd y gêm, fe wnaeth Ronnie O’Sullivan longyfarch Jordan Brown yn wresog, ond fe wnaeth e gwyno hefyd am amserlen y cystadlaethau.

“Dydych chi ddim yn chwaraewr ffôl os ydych chi’n curo Selby a Maguire felly ro’n i’n gwybod y byddai e’n gyfforddus ar y llwyfan mawr a dw i ddim wedi cael fy synnu,” meddai.

Bydd y chwaraewyr nawr yn troi eu sylw at Bencampwriaeth y Chwaraewyr ym Milton Keynes yr wythnos hon.

“Allwch chi ddim eu gwahanu nhw ragor,” meddai Ronnie O’Sullivan am y cystadlaethau.

“Maen nhw bob dydd ac maen nhw’n rhedeg mewn i’w gilydd.

“Fe wnaeth rhywun ofyn i fi y diwrnod o’r blaen pryd mae fy nhwrnament nesaf a dywedais i ei bod hi’n amhosib gwybod – mae hi fel cael 30 o blant a cheisio cofio’u enwau nhw i gyd.”

Teyrngedau i Doug Mountjoy

A’r gystadleuaeth yng Nghasnewydd yn cael ei chynnal dafliad carreg o’i gartref yn sir Caerffili, fe wnaeth y BBC dalu teyrnged ar noson y ffeinal i Doug Mountjoy, y cyn-chwaraewr o Bontywaun fu farw’r wythnos ddiwethaf yn 78 oed.

Roedd y Cymro’n chwaraewr blaenllaw ar y gylchdaith am ymhell dros ddegawd ar ôl troi’n broffesiynol, ac yntau eisoes wedi ennill teitl amatur y byd yn 1976.

Cyrhaeddodd e ffeinal Pencampwriaeth y Byd yn 1981 ac fe enillodd e Bencampwriaeth y Deyrnas Unedig yn 1998/9 gan guro Stephen Hendry, ac fe ddywedodd yr Albanwr fod Mountjoy “wedi chwarae fel Duw”.

Fe lwyddodd i gyrraedd rhif pump ar restr detholion y byd yn 1990.

Ar ôl cael diagnosis o ganser yr ysgyfaint yn 1993, fe wnaeth e barhau i chwarae tan 1997 cyn mynd yn hyfforddwr yn Dubai ac yna yn ôl yng Nghymru.

Gyda Mark Williams yn cyfeirio at ei grysau ffriliog llachar, dywedodd Darren Morgan ei fod e’n “gymeriad lliwgar”.

Yn ôl Matthew Stevens, roedd e’n “foi hyfryd” ac roedd ei fywyd “yn deilwng o ffilm Hollywood” yn ôl Ken Doherty, gyda Mark Williams yn cyfeirio at ei yrfa’n löwr.

Dywedodd Judd Trump ei fod e’n “ysbrydoliaeth i’r genhedlaeth a ddilynodd”.

“Roedd snwcer yn gêm y dosbarth gweithiol, a’r rhain oedd arwyr y dosbarth canol,” meddai Ken Doherty am y chwaraewyr snwcer o Gymoedd y De oedd yn cynnwys Doug Mountjoy.

Roedd y deyrnged yn cynnwys cyfweliad gyda’r dyn ei hun, ynghyd â deunydd o’i ymddangosiadau ar y rhaglen boblogaidd Pot Black, ac fe gyfeiriodd Matthew Stevens at ei rediad o 145 o flaen y camerâu gyda’r fath sgôr yn ddigwyddiad prin iawn ar y pryd.

“Roedd ganddo fe ei grysau llachar ac roedd e bob amser yn gwisgo’n smart,” meddai Jimmy White.

Wrth i’w yrfa ddirwyn i ben, fe wnaeth e guro’r John Higgins ifanc, a’r Albanwr yn dweud “os mai hwn yw Doug Mountjoy heibio’i anterth, fyddwn i ddim wedi hoffi chwarae yn ei erbyn ar ei orau”.

Dywedodd Ken Doherty fod snwcer “wedi newid ei fywyd, ond wnaeth e ddim newid y dyn”.

“Roedd e’n ymarfer yn fy nghlwb am flynyddoedd,” meddai Mark Williams o Went.

“Roedd e i mewn am 11 o’r gloch bob bore’n ddi-ffael tan 1 o’r gloch ar ei ben ei hun, dwy awr drws nesa’ i fi a bydden ni’n sgwrsio.

“Roedd yn dda cael ei adnabod am flynyddoedd.”