Mae Kirsty Williams yn dweud na ddylid cymryd y gall ysgolion “ddychwelyd i’r hen drefn arferol” wrth i rai disgyblion gael dychwelyd o yfory (dydd Llun, Chwefror 22).

Bydd plant tair i saith oed yn cael dychwelyd i’r ystafell ddosbarth yn gyntaf, ynghyd â rhai myfyrwyr mewn colegau.

Ac mae Ysgrifennydd Addysg Cymru wedi dweud wrth raglen Sunday Supplement ar Radio Wales ei bod hi’n hyderus y bydd modd i ragor o ddisgyblion oed cynradd gael gwersi wyneb yn wyneb o ganol mis nesaf pe bai nifer achosion Covid-19 yn parhau i ostwng.

Ond mae hi’n dweud na ddylid cymryd, o ganlyniad, fod modd dychwelyd i “gysgu draw gyda ffrindiau neu bartïon pen-blwydd”.

“Os yw’r sefyllfa iechyd cyhoeddus yn parhau i ddatblygu fel y bu ers y cyfnod clo ym mis Rhagfyr, yna dw i mor hyderus ag y gallaf fod y byddwn ni’n gallu dychwelyd rhagor o blant i ddysgu wyneb yn wyneb ar Fawrth 15,” meddai.

“Plis peidiwch â chamddehongli hynny fel arwydd fod pethau’n gallu dychwelyd i’r hen drefn arferol.

“Mae ysgolion yn lleoliadau sydd wedi’u rheoleiddio’n gadarn, mae staff ysgolion yn gweithio’n galed iawn i’w gwneud nhw mor ddiogel o ran Covid ag y gallan nhw fod.

“Ond ymddygiad o amgylch yr ysgol – ar y daith i’r ysgol, wrth giât yr ysgol, neu ar eich ffordd adref ac ar y penwythnos – a fydd yn ein helpu ni i gadw’r sefyllfa iechyd cyhoeddus i wella a fydd yn galluogi mwy o blant i fynd yn ôl.”

Beth yw’r sefyllfa ar hyn o bryd?

Dechreuodd holl ysgolion a cholegau Cymru ddysgu ar-lein ar ddechrau’r tymor hwn.

Dim ond plant i weithwyr allweddol a phlant sydd mewn perygl o ganlyniad i Covid-19, yn ogystal â’r rhai sydd angen cwblhau asesiadau, sydd wedi cael dychwelyd hyd yn hyn.

Yn ôl Kirsty Williams, mae sefyllfa disgyblion uwchradd yn fwy cymhleth oherwydd fod y ffordd y gallen nhw gael eu heintio’n debycach i oedolion.

Mae disgwyl i rai myfyrwyr mewn prifysgolion ddychwelyd i’w campysau yn y man er mwyn cwblhau asesiadau ac elfennau ymarferol o’u cyrsiau.

Yn y cyfamser, mae Siân Gwenllian, llefarydd addysg Plaid Cymru, yn galw am flaenoriaethu staff ysgolion wrth lunio rhestr o’r bobol sydd i dderbyn brechlynnau Covid-19.