Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi croesawu cyhoeddiad Boris Johnson ei fod yn gobeithio y bydd pob oedolyn yng ngwledydd Prydain wedi cael cynnig brechlyn Covid-19 erbyn diwedd mis Gorffennaf.

Daw hyn wrth i brif weinidog Prydain gynllunio i lacio cyfyngiadau’r cyfnod clo yn Lloegr.

Mae’n dweud y bydd brechu’n allweddol er mwyn gallu llacio rhai o’r cyfyngiadau llymaf, ond mae’n mynnu y bydd unrhyw lacio’n digwydd mewn modd “gofalus a graddol”.

Mae e wrthi’n edrych ar ddata’n ymwneud â marwolaethau, achosion, derbyniadau i ysbytai ac effaith y brechlynnau, ac mae’n bwriadu cyhoeddi ei gynlluniau gerbron y Senedd yn San Steffan yfory (dydd Llun, Chwefror 22).

Mae disgwyl i’w gynlluniau gynnwys dyddiad er mwyn llacio’r cyfyngiadau, cynllun i gyflymu’r broses o frechu pob oedolyn dros 50 oed ac unrhyw un sydd â chyflwr iechyd sy’n cynyddu perygl y feirws fel y byddan nhw wedi cael cynnig brechlyn erbyn Ebrill 15.

Erbyn Gorffennaf 31, y gobaith yw y bydd pob oedolyn yng ngwledydd Prydain wedi cael cynig brechlyn, ond dydy’r drefn ddim wedi cael ei chyhoeddi eto.

Ymateb y Ceidwadwyr Cymreig

Wrth ymateb, dywed Andrew RT Davies fod yr addewid yn “newyddion gwych” a bod y “rhaglen frechu’n parhau i gyflawni y tu hwnt i’n breuddwydion mwyaf gwyllt”.

“Mae strategaeth gaffael ystwyth Llywodraeth Geidwadol Prydain yn ein helpu ni i warchod y rhai mwyaf bregus ledled Cymru, gan achub mwy a mwy o fywydau bob dydd, a mynd â ni’n nes at lacio’r cyfyngiadau,” meddai.

“Fe fu’n ymdrech ragorol a rhaid rhoi pob clod i bawb sydd ynghlwm, yn enwedig y timau rhyfeddol ar y rheng flaen sy’n gweinyddu’r brechlynnau i mewn i freichiau ar gyflymdra mor uchel.”

 

Brechlyn AstraZeneca

Boris Johnson yn addo brechu pob oedolyn yng ngwledydd Prydain erbyn Gorffennaf

Daw hyn wrth i brif weinidog Prydain gynllunio i lacio’r cyfyngiadau yn Lloegr