Mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, yn addo y bydd pob oedolyn yng ngwledydd Prydain sy’n dymuno wedi cael brechlyn coronafeirws erbyn mis Gorffennaf.

Daw hyn wrth iddo gynllunio i lacio cyfyngiadau’r cyfnod clo yn Lloegr.

Mae’n dweud y bydd brechu’n allweddol er mwyn gallu llacio rhai o’r cyfyngiadau llymaf, ond mae’n mynnu y bydd unrhyw lacio’n digwydd mewn modd “gofalus a graddol”.

Mae e wrthi’n edrych ar ddata’n ymwneud â marwolaethau, achosion, derbyniadau i ysbytai ac effaith y brechlynnau, ac mae’n bwriadu cyhoeddi ei gynlluniau gerbron y Senedd yn San Steffan yfory (dydd Llun, Chwefror 22).

Mae disgwyl i’w gynlluniau gynnwys dyddiad er mwyn llacio’r cyfyngiadau, cynllun i gyflymu’r broses o frechu pob oedolyn dros 50 oed ac unrhyw un sydd â chyflwr iechyd sy’n cynyddu perygl y feirws fel y byddan nhw wedi cael cynnig brechlyn erbyn Ebrill 15.

Erbyn Gorffennaf 31, y gobaith yw y bydd pob oedolyn yng ngwledydd Prydain wedi cael cynig brechlyn, ond dydy’r drefn ddim wedi cael ei chyhoeddi eto.

Nod gweinidogion yn wreiddiol oedd cynnig brechlyn i bob oedolyn erbyn mis Medi, gyda phawb dros 50 oed a’r rheiny yn y naw grŵp blaenoriaeth cyntaf erbyn mis Mai.

Cafodd pawb yn y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf gynnig brechlyn erbyn Chwefror 15.